Gweithiwr Cymdeithasol Tîm Cymorth i Deuluoedd
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 31/10/2021 |
Dyddiad Postio: | 19/10/2021 |
Cyfeirnod: | 05574 |
Disgrifiad
Cyflog G09 - £30,451 - £32,910 y flwyddyn
Mae’r Tîm Cymorth i Deuluoedd
Gwasanaethau Plant Wrecsam yn chwilio am weithwyr cymdeithasol i ymuno â’r tîm i
ymgymryd â gwaith cymdeithasol cysylltiedig â gweithdrefnau diogelu/gofal
plant. Byddem yn croesawu gweithwyr cymdeithasol newydd
gymhwyso ond gellid cynnig cyflog ar bwynt uwch ar y raddfa gyflog yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad.
Mae yna gyfleoedd ar gyfer gwneud
cynnydd o fewn y tîm ac ystod eang o gyfleoedd hyfforddiant a datblygu ar gael
i gefnogi datblygiad gyrfa. Mae
Gwasanaethau Plant Wrecsam ar siwrnai o welliant ac mae cefnogi a datblygu
staff o fewn yr awdurdod yn rhan annatod o hyn.
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan
ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb,
cred grefyddol nac oed.
Mae'r
Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu
ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn
Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y
Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Lynsey Halligan |
Ffôn: | 01978 292525 |
Cyfeiriad e-bost: | lynsey.halligan@wrexham.gov.uk |