Gweithiwr Cymdeithasol - Tîm Asesu ac Ymyrraeth
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 31/10/2021 |
Dyddiad Postio: | 13/10/2021 |
Cyfeirnod: | 05576 |
Disgrifiad
G09 - £30,451 - £32,910 y flwyddyn
Bydd gan yr ymgeisydd
rywfaint o brofiad o weithio gyda phlant a diogelu, fodd bynnag, darperir
hyfforddiant a mentora. Bydd ymgeiswyr sydd heb y profiad penodol
hwn ond sydd yn awyddus i ddatblygu yn y maes hwn o waith cymdeithasol hefyd yn
cael eu hystyried.
Bydd gan yr ymgeisydd agwedd canolbwyntio ar atebion gan sicrhau fod y plentyn yn ganolbwynt i unrhyw ymyrraeth a ymgymerir ganddynt. Mae sgiliau a nodweddion sydd eu hangen yn cynnwys sgiliau cyfathrebu effeithiol, agwedd empathetig, bod yn agored a gonest, dibynadwy ac wedi ymrwymo a chymhellol i ddarparu safon uchel o wasanaeth i’r plant a theuluoedd sydd angen gofal a chefnogaeth. Bydd yr ymgeisydd yn gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm ac yn yr un modd yn gallu gweithio’n dda yn annibynnol.
Mae yna gyfleoedd ar gyfer dilyniant gyda’r tîm ac ystod eang o gyfleoedd hyfforddiant a datblygu sydd ar gael i gefnogi camu ymlaen yn eich gyrfa. Mae Wrecsam yn gwneud cynnydd cadarnhaol ar eu taith tuag at welliant ac mae cefnogi a datblygu staff yn allweddol ar gyfer llwyddiant hyn.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Sarah Grant |
Ffôn: | 07990647808 |
Cyfeiriad e-bost: | Sarah1.Grant@wrexham.gov.uk |