Rheolwr Tîm Cynorthwyol Tîm Pobl Hŷn
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 17/11/2021 |
Dyddiad Postio: | 12/11/2021 |
Cyfeirnod: | 05583 |
Disgrifiad
Rheolwr Tîm Cynorthwyol -
Tîm Pobl Hŷn
G11 £37,890 - £40,876 per
annum
Rydym yn dymuno penodi
gweithwyr cymdeithasol llawn cymhelliant a chymwys sydd â phrofiad a brofwyd
mewn gwaith cymdeithasol Pobl Hŷn sy'n ceisio cyfleoedd i arwain a rheoli tîm
bychan o Weithwyr Cymdeithasol ac Aseswyr Gofal Cymdeithasol yn ein Tîm Pobl
Hŷn. Byddwch yn un o bedwar rheolwr tîm cynorthwyol, a fydd,
yn ogystal â darparu cefnogaeth oruchwyliol uniongyrchol i staff penodol, hefyd
yn cyflawni swyddogaeth Rheolwr Dyletswydd yn ôl trefn rota.
Byddwch yn datblygu
ymarfer a pherfformiad gweithiwr cymdeithasol o ansawdd trwy reolaeth
weithredol ddyddiol a chefnogi’r Rheolwr Tîm i reoli’r llwyth gwaith ac achosion.
Bydd gennych sgiliau/gwybodaeth o ran rheoli pobl yn
effeithiol, gan gynnwys ymgysylltu â staff a meddu ar agwedd fyfyriol o ran
goruchwylio i alluogi eraill i wella eu hymarfer, rheoli
risgiau a sicrhau bod pobl hŷn yn ddiogel.
Mae'r tîm Pobl Hŷn yn rhan o nifer o brosiectau i wella gwasanaethau i’n dinasyddion, felly mae’n gyfnod gwych i ymuno â’r tîm a chyfrannu at ein datblygiad parhaus. Mae dealltwriaeth o weithio amlddisgyblaethol a gweithio gydag unigolion, eu teuluoedd a gofalwyr di-dâl yn hanfodol.
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r
Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu
ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn
Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y
Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Heidi Green |
Ffôn: | 01978 298181 |
Cyfeiriad e-bost: | heidi.green@wrexham.gov.uk |