Cynghorydd Cyswllt Cyntaf
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 03/01/2022 |
Dyddiad Postio: | 14/12/2021 |
Cyfeirnod: | 05598 |
Disgrifiad
G04 £18,933 – £19,312 Y flwyddyn
1 x 37 oriau'r wythnos
Lleolir y swyddi hyn o fewn y Tîm Un Pwynt Mynediad, Adran Gofal Cymdeithasol i Oedolion (sydd yn cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol, Therapyddion Galwedigaethol, Aseswyr Gofal Cymdeithasol ac asiantaethau Trydydd Sector) ac wedi’i lleoli yn Twr Redwither, Wrecsam.
Bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaeth rheng flaen sy’n cynnwys cyswllt uniongyrchol â'r cyhoedd, defnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol a sefydliadau eraill, a hynny dros y ffôn, drwy e-bost, mewn llythyrau ac wyneb yn wyneb os bydd angen.
Bydd deiliad y swydd yn casglu gwybodaeth er mwyn sicrhau atgyfeiriadau/ ymholiadau cywir a phriodol i’r tîm, yn darparu gwybodaeth a chyngor sylfaenol ac yn cofnodi’r holl wybodaeth yn gywir ar systemau priodol yr adran.
Dylai fod gennych chi dystiolaeth o’ch profiad o ddefnyddio pecynnau Microsoft, e.e. Word ac Excel, ond yn bwysicaf oll, dylech feddu ar sgiliau llafar, ysgrifenedig, rhifedd, cyfathrebu a threfnu ardderchog.
Yn gyfnewid, rydym yn cynnig swydd o fewn tîm arloesol a deinamig, sy'n darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i drigolion y Fwrdeistref Sirol.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r
Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu
ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn
Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael
eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Claire Davies |
Ffôn: | 01978 298074 |
Cyfeiriad e-bost: | claire.davies@wrexham.gov.uk |