Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Gweithiwr Cymdeithasol Tim Pobl Hyn

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Parhaol
Categori: Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Cau: 14/11/2021
Dyddiad Postio: 02/11/2021
Cyfeirnod: 05609

Disgrifiad

Gweithiwr Cymdeithasol

G09 £30,451 - £32,910 y flwyddyn

Rydym yn chwilio am Weithwyr Cymdeithasol cymwysedig llawn cymhelliant gyda gwybodaeth a phrofiadau a brofwyd ym maes gwaith cymdeithasol Pobl Hŷn. Fe fyddwch yn aelod allweddol o'r tîm Pobl Hŷn, gan gyflawni asesiadau gwaith cymdeithasol o ansawdd a gweithredu fel y sawl sy'n gwneud penderfyniadau yn unol â Phrif Egwyddorion Deddf Galluedd Meddyliol (2005), i alluogi pobl hŷn diamddiffyn dros 65 mlwydd oed yn Sir Wrecsam i aros yn eu cartref neu yn yr amgylchedd mwyaf priodol gan ystyried eu diogelwch a'u lles.   

Yn y swydd fe fyddwch yn gweithio mewn partneriaethau gyda budd-ddeiliaid allweddol gan gynnwys y GIG, yr awdurdodau lleol neu ddarparwyr y sector annibynnol, teuluoedd a gofalwyr di-dâl i sicrhau fod gofal o ansawdd a chefnogaeth yn cael ei darparu i bobl hŷn sydd mewn angen. Fe fyddwch yn cael y cyfle i gefnogi pobl hŷn gydag ystod o anghenion gan gynnwys rhai yn ymwneud ag iechyd corfforol ac iechyd meddwl a bydd gennych y sgiliau i gynnal sgyrsiau ynglŷn â "beth sy'n bwysig” i hysbysu asesiadau a darpariaeth cefnogaeth sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau. 

Mae’r tîm Pobl Hŷn yn ymwneud â nifer o brosiectau i wella gwasanaethau i'n dinasyddion gan gynnwys gweithio integredig ar draws yr holl system. Mae’r prosiectau a’r partneriaethau hyn ledled Wrecsam o fudd i Bobl Hŷn, ac felly mae'n adeg gwych i ymuno â'r tîm a chyfrannu at lunio gwasanaethau'r dyfodol.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

 

 

 

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Heidi Green `
Ffôn: 01978 298151
Cyfeiriad e-bost: heidi.green@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr