Rheolwr Newid Hinsawdd a Gostwng Carbon
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Amgylchedd a Thechnegol |
Dyddiad Cau: | 08/08/2021 |
Dyddiad Postio: | 23/07/2021 |
Cyfeirnod: | 05639 |
Disgrifiad
G12 - £41,881 - £44,863
Fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ddatgan Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol ym mis Medi 2019, ac ymrwymo i sefydlu Cynllun Datgarboneiddio yn manylu sut y byddwn yn gweithio tuag at y targed o fod yn ‘garbon niwtral’ erbyn 2030. Mae ein cynllun bellach wedi’i ddatblygu a’i gymeradwyo. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol mai dim ond megis dechrau mae’r gwaith caled. Rydym yn awyddus i benodi ‘Rheolwr Newid Hinsawdd a Gostwng Carbon’ gwybodus, sydd â’r gallu i arwain a chymell eraill. Bydd deiliad y swydd yn arwain ar ddarpariaeth barhaus a datblygiad pellach Strategaeth a chynllun Datgarboneiddio Cyngor Wrecsam, yn ogystal â darparu rheolaeth rhaglen ac arweiniad strategol ar draws y Cyngor, gan sicrhau bod prosiectau’n cael eu darparu gyda phartneriaid a budd-ddeiliaid allweddol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gydag Aelodau Etholedig, yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a swyddogion ym mhob gwasanaeth i sicrhau bod ein hymrwymiad i ddatgarboneiddio’n cael ei ymgorffori ym mhopeth a wnawn.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Rachel Penman |
Ffôn: | 01978 729644 |
Cyfeiriad e-bost: | Rachel.Penman@wrexham.gov.uk |