Gweithwyr Cefnogi Nos
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | |
Dyddiad Postio: | 13/03/2024 |
Cyfeirnod: | 05650 |
Disgrifiad
Gwaith Cefnogi Nos
G05 £24,294 - £25,119 y flwyddyn (pro-rata)
Mae cyfle cyffrous ar gael yn
y Gwasanaeth Gofal Cartref ar gyfer pobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn
i fywydau pobl yn ein cymuned. Rydym yn cefnogi
unigolion i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain drwy eu galluogi i fodloni eu
gofynion eu hunain a theimlo’n saff a diogel mewn amgylchedd cyfarwydd.
Mae’r Gwasanaeth Gofal Cartref yn cynnig cefnogaeth i oedolion sydd angen cymorth gyda gweithgareddau bywyd beunyddiol megis gofal personol, lles corfforol ac emosiynol, cynnal maetheg neu baratoi bwyd.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr deinamig, sy’n gallu eu cymell eu hunain, ac sy’n meddu ar empathi a pharch. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gwerthfawrogi’r gwahaniaethau mewn pobl eraill, ac yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Byddant yn gweithio’n dda fel aelod o dîm ac ar eu liwt eu hunain; ac yn gallu dilyn cynlluniau a chael gwared ar rwystrau er mwyn sicrhau bod canlyniadau’n cael eucyflawni. Byddant yn hyblyg o ran eu dull gwaith, ac wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.
Er mwyn cefnogi ymgeiswyr sy’n dangos diddordeb, rydym yn cynnig sesiynau cwrdd a chyfarch er mwyn cefnogi, arwain a rhoi cyngor ynghylch y swyddi sydd ar gael, ac i roi unrhyw gefnogaeth sy’n angenrheidiol er mwyn cwblhau’r cais.
Os hoffech wneud cais (neu gael sgwrs anffurfiol ynghylch y swyddi), cysylltwch â:
Marie Langford 01978 298413
Sharon Hopley
01978 298414
Rydym yn gweithredu cynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr â'r cymwysterau priodol sydd ag anableddau ac rydym wedi ymrwymo i Gyfleoedd Cyfartal.
Mae Gofal
Cymdeithasol i Oedolion yn gweithio i gynyddu nifer y gweithwyr sy’n siarad Cymraeg
er mwyn bodloni anghenion y gymuned a wasanaethir, ac felly byddwn yn rhoi
croeso arbennig i geisiadau gan ymgeiswyr sy’n dangos eu bod yn gallu gweithio
drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n
croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac
yn Saesneg. Ni
fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na
chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Marie langford |
Ffôn: | 01978 298413 |
Cyfeiriad e-bost: | Marie.langford@wrexham.gov.uk |