Gweithiwr Cymdeithasol Tîm Asesu ac Ymyrraeth
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 12/12/2021 |
Dyddiad Postio: | 16/11/2021 |
Cyfeirnod: | 05679 |
Disgrifiad
Mae’r Tîm Asesu ac Ymyrraeth yn chwilio am weithiwr cymdeithasol i ymuno â’r Tîm Asesu ac Ymyrraeth gan fod swydd graidd wedi cael ei chytuno fel rhan o’n Cynllun Gwella i weithio gyda phlant yn eu harddegau sydd ar fin mynd mewn i ofal neu ar fin bod yn ddigartref. Pwrpas y swydd yma yw sicrhau bod partneriaid yn parhau i weithio gyda’u gilydd yn effeithiol i ddarparu ymateb gyson a chydlynol i bobl ifanc sydd yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref ac sydd angen llety. Bydd rhaid i ymgeiswyr weithio o fewn protocol Deddf Plant 1989 sydd yn gosod dyletswydd gyffredinol ar awdurdodau lleol i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau i ‘blant mewn angen’ yn eu hardal. Mae’r swydd hefyd yn golygu gweithio o dan Ddeddf Tai 1996, Rhan V11 sydd yn nodi cyfrifoldebau, ac o dan y cyfrifoldebau hyn mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu llety dros dro neu barhaol. Mae Deddf Iechyd a Lles Cymru 2014 hefyd yn sylfaenol i’r swydd hon, a sicrhau bod cyfleoedd yn cael eu cynnig i bobl ifanc diamddiffyn o’r fath.
Cyflwynwyd y protocol hwn er mwyn ymateb i ddyfarniad Tŷ'r Arglwyddi ym mis Mai 2009 yn achos G v LB Southwark.
Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol llawn cymhelliant gyda gwybodaeth a phrofiad ym maes gwaith cymdeithasol. Fe fyddwch chi’n aelod allweddol o Dîm Asesu ac Ymyrraeth Wrecsam, gan gyflwyno asesiadau gwaith cymdeithasol o ansawdd a sicrhau gwell cydweithredu a chyfathrebu rhwng gwasanaethau. Nod y swydd yw gwella sut mae pobl ifanc yn cael eu hatgyfeirio ac yn cael gafael ar wasanaethau llety/cefnogaeth digartrefedd a hyrwyddo gwell cysondeb o ran mynediad at wasanaethau a phenderfyniadau. Mae disgwyl i’r gweithiwr cymdeithasol weithio’n agos gyda’r person ifanc a’u galluogi nhw i wneud penderfyniadau gwybodus trwy’r roi’r wybodaeth iddynt am eu hawliau a defnyddio adnoddau’n effeithlon er mwyn cynorthwyo’r person ifanc orau.
Bydd gan yr ymgeisydd rywfaint o brofiad o weithio gyda phlant a diogelu, fodd bynnag, darperir hyfforddiant a mentora. Bydd ymgeiswyr heb brofiad hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer cyfweliad a chyflogaeth.
Bydd yr ymgeisydd yn gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm ac yn yr un modd yn gallu gweithio’n dda yn annibynnol. Mae yna gyfleoedd ar gyfer dilyniant gyda’r tîm ac ystod eang o gyfleoedd hyfforddiant a datblygu sydd ar gael i gefnogi camu ymlaen yn eich gyrfa. Mae Wrecsam yn gwneud cynnydd cadarnhaol ar eu taith tuag at welliant ac mae cefnogi a datblygu staff yn allweddol ar gyfer llwyddiant hyn. Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n
croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac
yn Saesneg. Ni
fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na
chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Sharon Britton |
Ffôn: | 01978 292500 |
Cyfeiriad e-bost: | sharon.britton@wrexham.gov.uk |