Gweithwyr Cymdeithasol Cymwys Profiadol
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 17/10/2021 |
Dyddiad Postio: | 22/09/2021 |
Cyfeirnod: | 05709 |
Disgrifiad
Gofal Cymdeithasol Plant
Tîm
Maethu
G10 Cyflog £33,782 – £36,922 y flwyddyn
Yn ddibynnol ar sgiliau a phrofiad perthnasol
Swyddi llawn amser ar gael
Rhannu swydd ar gael
Os oes gennych chi sgiliau rhagorol mewn datblygu perthnasoedd â phlant sy’n derbyn gofal a’u gofalwyr maeth, yna hoffem eich penodi chi i swydd yn ein Tîm Maethu.
Mae’r Tîm Maethu wedi cael buddsoddiad sylweddol i
ddatblygu’r gwasanaeth. Mae’r tîm yn cynnig llwyth achosion isel ynghyd
â’r cyfle i staff ddatblygu eu sgiliau a’u diddordebau mewn amgylchedd hynod
gefnogol sy’n hybu ymarfer creadigol a myfyriol.
Dyma’r amser gorau posib i ymuno â Gwasanaeth
Rhianta Corfforaethol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar ei daith tuag at
ragoriaeth.
Yn gyfnewid am hyn, rydym yn cynnig:
-
Goruchwyliaeth a chymorth
ardderchog gan reolwyr
-
Cyfleoedd hyfforddi a datblygu
parhaus
-
Cydbwysedd rhwng bywyd a
gwaith, gan gynnwys gweithio’n hyblyg
-
Talebau gofal plant
-
Cynllun Beicio i’r Gwaith
-
Cynllun Rhannu Ceir
-
Gostyngiadau a chynigion i
staff
-
Mynediad at Undeb Credyd
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Zoe Brennan |
Ffôn: | 01978 295310 |
Cyfeiriad e-bost: | zoe.brennan@wrexham.gov.uk |