Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Swyddog Cynllunio a Chomisiynu

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Dros Dro
Categori: Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Cau: 05/12/2021
Dyddiad Postio: 04/11/2021
Cyfeirnod: 05724

Disgrifiad

Dros dro hyd at ddiwedd Awst 2022 – 37 awr

£30,451 i £32, 0910 y flwyddyn 

Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn medrus a brwdfrydig ymuno â'r Tîm Cynllunio a Chomisiynu (Gofal Cymdeithasol i Oedolion). 

Mae’r Tîm yn arwain gweithgarwch comisiynu strategol o fewn yr Adran Gofal Cymdeithasol ac yn gyfrifol am ddatblygu prosiectau newid mawr. 

Bydd gan ddeiliad y swydd brofiad o reoli prosiectau a bydd yn gallu dangos dealltwriaeth o egwyddorion rheoli newid. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd weithio mewn ffordd sy’n helpu darparu rhaglen gomisiynu gyd-gynhyrchiol, a bydd ganddo/ganddi brofiad o ymgysylltu a gweithio gydag ac ar ran defnyddwyr gwasanaeth. Bydd deiliad y swydd yn gallu dadansoddi amrediad o ddeunyddiau ymchwil a rhoi’r canfyddiadau ar waith er mwyn helpu dinasyddion Wrecsam i gael canlyniadau cadarnhaol. 

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio’n agos â sefydliadau cymunedol, trydydd sector ac annibynnol er mwyn cefnogi gweithrediad Strategaethau Comisiynu’r Adran a blaenoriaethau'r Cyngor. 

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed. 

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Victoria Bishop
Ffôn: 01978 298611
Cyfeiriad e-bost: victoria.bishop@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr