Swyddog Cynllunio a Chomisiynu
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Dros Dro |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 05/12/2021 |
Dyddiad Postio: | 04/11/2021 |
Cyfeirnod: | 05724 |
Disgrifiad
£30,451 i £32, 0910 y flwyddyn
Mae’r Tîm yn arwain gweithgarwch comisiynu strategol o fewn yr Adran Gofal Cymdeithasol ac yn gyfrifol am ddatblygu prosiectau newid mawr.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio’n agos â sefydliadau cymunedol, trydydd sector ac annibynnol er mwyn cefnogi gweithrediad Strategaethau Comisiynu’r Adran a blaenoriaethau'r Cyngor.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas
heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Victoria Bishop |
Ffôn: | 01978 298611 |
Cyfeiriad e-bost: | victoria.bishop@wrexham.gov.uk |