Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Swyddog Cofrestru

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Rhan Amser Parhaol
Categori: Llywodraethu a Chwsmeriad
Dyddiad Cau: 24/10/2021
Dyddiad Postio: 08/10/2021
Cyfeirnod: 05821

Disgrifiad

30 awr yr wythnos – Parhaol

Cyflog G06 - £21,748 I £23,080  y flwyddyn (pro rata yr oriau weithwyd)

 Mae Gwasanaeth Cofrestru Wrecsam yn chwilio am Swyddog Cofrestru i ymgymryd ac ystod lawn o ddylestwyddau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio, yn bennaf, yn y Swyddfa Gofrestru brysur yn Wrecsam. Yr oriau gwaith arferol fydd 30 awr yr wythnos.

Mae’r dyletswyddau yn cynnwys cofrestru genedigaethau, marwolaethau, priodasau a phartneriaethau sifil a pheth gwaith dinasyddiaeth;  ynghyd ac ardystio hysbysiadau priodasau a phartneriaethau sifil. Bydd dyletswyddau’r swydd hefyd yn cynnwys arwain ystod eang o seremoniau.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar lefel addysg dda a bydd gyda phrofiad cadarnhaol o weithio gyda cwsmeriad a darparu gofal cwsmeriaeth o safon uchel. Dylai’r ymgeisydd fod yn  hyderus yn siarad yn gyhoeddus a meddu ar allu i ddilyn cyfarwyddiadau technegol a statudol. Byddai profiad a dealltwriaeth o reoliadau statudol ar gyfer genedigaethau, marwolaethau, priodasau a phartneriaethau sifil yn fuddiol.

Mae hyblygrwydd, manylder a chywirdeb yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Hefyd, mae’n ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus gael trwydded yrru lawn a char, gan fod angen teithio i leoliadau eraill ar gyfer y gwaith, yn ôl yr angen.

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.  Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Susan Lloyd
Ffôn: 01978 292670
Cyfeiriad e-bost: susan.lloyd@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr