Swyddog Cofrestru
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Rhan Amser Parhaol |
Categori: | Llywodraethu a Chwsmeriad |
Dyddiad Cau: | 24/10/2021 |
Dyddiad Postio: | 08/10/2021 |
Cyfeirnod: | 05821 |
Disgrifiad
30 awr yr wythnos – Parhaol
Cyflog G06 - £21,748 I £23,080 y flwyddyn (pro rata yr oriau weithwyd)
Mae’r dyletswyddau yn cynnwys cofrestru genedigaethau, marwolaethau, priodasau a phartneriaethau sifil a pheth gwaith dinasyddiaeth; ynghyd ac ardystio hysbysiadau priodasau a phartneriaethau sifil. Bydd dyletswyddau’r swydd hefyd yn cynnwys arwain ystod eang o seremoniau.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar lefel addysg dda a bydd gyda phrofiad cadarnhaol o weithio gyda cwsmeriad a darparu gofal cwsmeriaeth o safon uchel. Dylai’r ymgeisydd fod yn hyderus yn siarad yn gyhoeddus a meddu ar allu i ddilyn cyfarwyddiadau technegol a statudol. Byddai profiad a dealltwriaeth o reoliadau statudol ar gyfer genedigaethau, marwolaethau, priodasau a phartneriaethau sifil yn fuddiol.
Mae hyblygrwydd, manylder a chywirdeb yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Hefyd, mae’n ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus gael trwydded yrru lawn a char, gan fod angen teithio i leoliadau eraill ar gyfer y gwaith, yn ôl yr angen.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac
mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn
Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn
cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Susan Lloyd |
Ffôn: | 01978 292670 |
Cyfeiriad e-bost: | susan.lloyd@wrexham.gov.uk |