Arweinydd Tîm
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Tai |
Dyddiad Cau: | 21/11/2021 |
Dyddiad Postio: | 08/11/2021 |
Cyfeirnod: | 05887 |
Disgrifiad
G10 - £33,872 -
£36,922
Ydych chi’n
frwdfrydig am arwain tîm, gydag ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth rhagorol i
gwsmeriaid? Ydych chi’n flaengar, yn
arloesol ac yn meddu ar agwedd gadarnhaol?
Oes gennych chi brofiad o weithio yn y mes rheoli tai? Oes? Os felly, mae arnom ni eich angen chi!
Ymunwch â’n tîm
Tenantiaeth Tai yng Nghyngor Wrecsam, a byddwch yn ymuno â thîm sy’n rhoi’r
tenant wrth galon popeth a wnawn. Mae
rôl Arweinydd Tîm - Ystadau yn swydd amrywiol ac yn gyffrous o fewn yr Adran
Dai, lle byddwch yn gyfrifol am reoli ac arwain tîm o swyddogion i ddarparu
gwasanaeth tai effeithiol, sy'n canolbwyntio ar y cwsmer i'n tenantiaid.
Byddwch yn gyfrifol am holl swyddogaethau rheoli dyddiol swyddfa ystadau a
byddwch yn cefnogi’r uwch dîm rheoli wrth fodloni targedau perfformiad
allweddol.
Bydd angen i
chi fod yn greadigol ac yn arloesol wrth i dai cymdeithasol newid, a gweithio
mewn partneriaeth gydag asiantaethau a gwasanaethau eraill i greu amgylchedd
cynaliadwy i denantiaid a chymunedau.
Bydd gennych brofiad o weithio mewn swydd goruchwyliol yn y mes rheoli
tai, ynghyd â gwybodaeth o ddeddfwriaeth a gweithredoedd tai, a'r gallu i'w
cymhwyso i'r darpariaeth gwasanaeth. Bydd gennych agwedd gadarnhaol a’r gallu i
ddadansoddi problemau ac argymell datrysiadau.
Bydd gofyn i chi fod yn drefnus ac yn hawdd gwneud gyda chi, yn ogystal
â bod yn hyderus ac yn broffesiynol bob amser.
Byddwch yn derbyn hyfforddiant llawn a
chymorth parhaus, gyda digon o gyfleoedd i ddatblygu o fewn Cyngor Wrecsam. Mae
gennym hefyd nifer o fuddiannau gweithwyr i chi fanteisio arnynt, gan gynnwys
ein cynllun gweithio'n hyblyg a ffyrdd modern o weithio i gefnogi cydbwysedd
gwaith a bywyd iach, a gostyngiad ar nifer o frandiau ac atyniadau poblogaidd.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â
chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol
nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu
dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i
weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn
cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Sarah Evans |
Ffôn: | 01978 315437 |
Cyfeiriad e-bost: | sarah.evans@wrexham.gov.uk |