Prentis modern
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Dros Dro |
Categori: | Cyllid a TGCh |
Dyddiad Cau: | 12/12/2021 |
Dyddiad Postio: | 30/11/2021 |
Cyfeirnod: | 05947 |
Disgrifiad
Dros dro am
18 mis
£4.30 yr awr
am 12 mis
£9.25 yr awr
am 6 mis
Mae Cyngor Wrecsam yn chwilio am brentis i ymuno â'r tîm Gwasanaethau Defnyddwyr TGCh.
Mae’r tîm yn darparu cymorth
TGCh llinell gyntaf ac ail linell i 2,500 o aelodau staff ledled y sefydliad,
ac mae hyn yn cynnwys cymorth wrth y ddesg gyda gliniaduron, ffonau symudol,
argraffu ac ati.
Mae hon yn swydd sy’n
canolbwyntio ar y cwsmer gyda chryn dipyn o ryngweithio gyda’r defnyddwyr. Felly, er bod sgiliau TGCh
sylfaenol da yn bwysig, y sgiliau allweddol yr ydym yn eu ceisio yw bod yn
eiddgar i ddysgu, â’r gallu i addasu a sgiliau cyfathrebu rhagorol.
Mae hwn yn gyfle gwych i
ennill profiad ymarferol o gymorth TGCh mewn sefydliad mawr, ochr yn ochr â
chwblhau Diploma BTEC lefel 2 a 3 mewn Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer
Gweithwyr Proffesiynol TG a Thelathrebu.
Mae’r
Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried
hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i
ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n
dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y
Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Germaine Hughes |
Ffôn: | 01978 292371 |
Cyfeiriad e-bost: | germaine.hughes@wrexham.gov.uk |