Gweithwyr Cefnogi Gofal Cartref / Ailalluogi
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | |
Dyddiad Postio: | 09/04/2024 |
Cyfeirnod: | 05955 |
Disgrifiad
G05 £24,294 - £25,119 y flwyddyn/ pro rata
Bydd ein swyddi Gweithwyr Cefnogi newydd yn gweithio ar draws timau a sefydliadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gefnogi pobl ledled Wrecsam. Bydd gan rai yn y swyddi hyn gyfle unigryw i fanteisio ar raglenni cynefino a datblygu o fewn y gwasanaeth iechyd yn ogystal ag adran gofal cymdeithasol yr awdurdod lleol ac mae’n rhan o’n buddsoddiad a’n cynlluniau hirdymor i ehangu ein gwasanaeth gofal cymdeithasol a buddsoddi yn, a datblygu ein gweithwyr.
Croesawir
ceisiadau hefyd ar gyfer gweithio dros y penwythnos yn unig.
Mae gofal cymdeithasol yn llawer mwy na gofal personol. Mae’n amrywiol iawn ac rydym eisiau gweithlu sy’n adlewyrchu amrywiaeth y bobl rydym yn eu cefnogi a’r hyn sy’n bwysig iddynt.
Rydym yn gweithredu cynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr â'r cymwysterau priodol sydd ag anableddau ac rydym wedi ymrwymo i Gyfleoedd Cyfartal.
Mae Gofal
Cymdeithasol i Oedolion yn gweithio i gynyddu nifer y gweithwyr sy’n siarad Cymraeg
er mwyn bodloni anghenion y gymuned a wasanaethir, ac felly byddwn yn rhoi
croeso arbennig i geisiadau gan ymgeiswyr sy’n dangos eu bod yn gallu gweithio
drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n
croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac
yn Saesneg. Ni
fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na
chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Julie Harrison |
Ffôn: | 07800688732 |
Cyfeiriad e-bost: | julie.harrison@wrexham.gov.uk |