Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Gweithwyr Cefnogi Gofal Cartref / Ailalluogi

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Parhaol
Categori: Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Cau:
Dyddiad Postio: 09/04/2024
Cyfeirnod: 05955

Disgrifiad

Mae nifer o batrymau gwaith ar gael

G05 £24,294 - £25,119 y flwyddyn/ pro rata

Bydd ein swyddi Gweithwyr Cefnogi newydd yn gweithio ar draws timau a sefydliadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gefnogi pobl ledled Wrecsam. Bydd gan rai yn y swyddi hyn gyfle unigryw i fanteisio ar raglenni cynefino a datblygu o fewn y gwasanaeth iechyd yn ogystal ag adran gofal cymdeithasol yr awdurdod lleol ac mae’n rhan o’n buddsoddiad a’n cynlluniau hirdymor i ehangu ein gwasanaeth gofal cymdeithasol a buddsoddi yn, a datblygu ein gweithwyr.

Croesawir ceisiadau hefyd ar gyfer gweithio dros y penwythnos yn unig.

Mae gofal cymdeithasol yn llawer mwy na gofal personol. Mae’n amrywiol iawn ac rydym eisiau gweithlu sy’n adlewyrchu amrywiaeth y bobl rydym yn eu cefnogi a’r hyn sy’n bwysig iddynt. 

Rydym yn gweithredu cynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr â'r cymwysterau priodol sydd ag anableddau ac rydym wedi ymrwymo i Gyfleoedd Cyfartal.

Mae Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn gweithio i gynyddu nifer y gweithwyr sy’n siarad Cymraeg er mwyn bodloni anghenion y gymuned a wasanaethir, ac felly byddwn yn rhoi croeso arbennig i geisiadau gan ymgeiswyr sy’n dangos eu bod yn gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed. 

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

 

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Julie Harrison
Ffôn: 07800688732
Cyfeiriad e-bost: julie.harrison@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr