Uwch Bennaeth Gwasanaeth - Oedolion
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 06/02/2022 |
Dyddiad Postio: | 14/01/2022 |
Cyfeirnod: | 06041 |
Disgrifiad
Ystod Cyflog: : :£60,003 i £62,614 (disgwyl am adolygiad cyflog) Gall pwyntiau cyflog ychwanegol fod yn gymwys yn amodol ar feini prawf
Un o flaenoriaethau ein Cyngor yw canolbwyntio ar gryfhau ein gwasanaethau er budd lles oedolion sydd angen ein cefnogaeth. Yn dilyn buddsoddiad diweddar yn y gwasanaeth hwn, rydym wedi cyflwyno dwy swydd arwain newydd, un yn y sector Oedolion a’r llall yn y sector Plant, i ymuno â'n uwch dîm rheoli. Rydym yn recriwtio ar gyfer y swydd yn y sector Oedolion ar hyn o bryd.
Rydym yn bwriadu penodi arweinydd profiadol i yrru Gwasanaethau Oedolion ymlaen ar eu taith tuag ac adeiladu ar y llwyddiant rydym wedi ei gyflawni hyd yma. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol yn eu rôl statudol fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.
Fel rhan o’r swyddogaeth Gofal Cymdeithasol ehangach, byddwch yn gyfrifol am ddyluniad, datblygiad a darpariaeth elfen Oedolion y gwasanaeth. Byddwch yn arweinydd allweddol o ran rheoli newid hwyluso arloesedd a gwelliant parhaus i ddarparu gwasanaeth Oedolion effeithiol ac effeithlon, gan gydweithio gydag Uwch Reolwyr Plant, i sicrhau synergedd a chydweithio ar draws y ddwy elfen o fewn y gwasanaeth, i weithredu fel gwasanaeth unigol.
Rydym yn edrych am weithiwr proffesiynol gyda sgiliau arwain gwasanaeth a darparu newid, cynnig syniadau newydd, a gwybodaeth a dealltwriaeth helaeth o'r sector gofal cymdeithasol, gan ddangos y gwerthoedd a'r ymddygiad cywir i weithredu fel model rôl i eraill.
Rydym yn cynnig pecyn buddion deniadol, gan gynnwys
cyflog, a gellir cynnig:
·
Cyfle i gynnig syniadau
arloesol er mwyn gyrru gwelliannau
·
Amgylchedd tîm gwych i
weithio ynddo
·
Cyfleoedd hyfforddiant a
datblygu ardderchog gan gynnwys mynediad at hyfforddiant un i un a datblygiad
proffesiynol parhaus i wella eich sgiliau
·
Gwyliau blynyddol hael
(hyd at 31 diwrnod yn dilyn 10 mlynedd o wasanaeth parhaus)
·
Gweithio hyblyg a
gwobrwyon a gostyngiadau eraill i weithwyr
· Cynllun Pensiwn y Llywodraeth Leol
Os hoffech chi wybod rhagor am y swydd, anfonwch neges e-bost at sue.robins@wrexham.gov.uk
Defnyddiwch y ddolen ganlynol i ymgeisio: 17 /21 Chwefror 2022
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n
croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac
yn Saesneg. Ni
fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na
chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Alwyn Jones |
Ffôn: | 01978 298010 |
Cyfeiriad e-bost: | Alwyn.Jones@wrexham.gov.uk |