Gweithiwr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 29/05/2022 |
Dyddiad Postio: | 24/03/2022 |
Cyfeirnod: | 06088 |
Disgrifiad
Chwilio am her newydd gyffrous?
ü Eisiau
boddhad swydd tra’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl?
Yna rydym eisiau siarad gyda CHI!
Mae Adran Gofal
Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithio gyda chydweithwyr
iechyd yn y Tîm Adnodd Cymunedol i recriwtio 30 o swyddi Gweithiwr Cefnogi
newydd yn y gymuned i weithio mewn ffordd fwy integredig. Mae hwn
yn gyfle unigryw i dderbyn hyfforddiant a phrofiad yn y ddau leoliad. Os ydych wedi ateb ‘ydw’ i’r cwestiwn uchod
yna rydym eisiau clywed gennych; nid ydych angen unrhyw brofiad iechyd neu ofal
cymdeithasol gan y darperir hyfforddiant llawn a gallwn gynnig cefnogaeth
barhaus i chi drwy gydol y broses ymgeisio.
Bydd ein swyddi
Gweithiwr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd yn gweithio ar draws timau
a lleoliadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gefnogi pobl ar draws Wrecsam. Bydd y swyddi hyn yn cael cyfle unigryw i dderbyn
datblygiad a chyfarfod sefydlu o fewn y gwasanaeth iechyd gyda lleoliadau mewn
amryw o leoliadau gofal iechyd yn ogystal â gofal cymdeithasol awdurdod lleol.
Rydym yn cynnig:
ü Gwyliau â thâl ac oriau contract parhaol
ü Gweithio ar draws ystod o leoliadau iechyd a gofal
cymdeithasol
ü Llwybrau camu ymlaen yn eich gyrfa a chyfleoedd gwaith
iechyd a gofal cymdeithasol
ü Ystod eang o hyfforddiant ar gael
ü Tîm cefnogol o gydweithwyr a rheolwyr
Bydd ein swyddi Gweithiwr
Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd yn gweithio ar draws timau a
lleoliadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gefnogi pobl ar draws Wrecsam. Bydd yna gyfle unigryw i ddatblygu a mynychu cyfarfod
sefydlu o fewn tîm iechyd yn ogystal â gofal cymdeithasol awdurdod lleol ac
mae’n ffurfio rhan o’n buddsoddiad hirdymor a chynlluniau i ddatblygu ein
gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a buddsoddi a datblygu ein gweithwyr.
Rydym yn gweithredu cynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr â'r cymwysterau priodol sydd ag anableddau ac rydym wedi ymrwymo i Gyfleoedd Cyfartal.
Mae Gofal
Cymdeithasol i Oedolion yn gweithio i gynyddu nifer y gweithwyr sy’n siarad Cymraeg
er mwyn bodloni anghenion y gymuned a wasanaethir, ac felly byddwn yn rhoi
croeso arbennig i geisiadau gan ymgeiswyr sy’n dangos eu bod yn gallu gweithio
drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Jane Rowland |
Ffôn: | 01978 298411 |
Cyfeiriad e-bost: | jane.rowland@wrexham.gov.uk |