Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd - Maethu
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 26/05/2024 |
Dyddiad Postio: | 29/04/2024 |
Cyfeirnod: | 06210 |
Disgrifiad
G07 £29,269 - £30,825
Mae’r Adran Gofal Cymdeithasol i Blant yn dymuno penodi unigolyn proffesiynol, ymroddgar a gofalgar yn ei wasanaeth Maethu yn Wrecsam. Bydd y Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd yn ymgymryd â holl agweddau gwasanaethau cefnogi teuluoedd ar draws y timau. Bydd y swydd yn cynnwys gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a gofalwyr maeth i gefnogi lleoliadau, hybu rhianta cadarnhaol, annibyniaeth, perthnasau iach ac i ddiogelu plant.
Bydd gennych gymwysterau perthnasol, un ai QCF neu NVQ3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gofal Plant) neu gymwysterau Gofal Plant perthnasol eraill neu’r gallu ymroddiad i ennill y QCF Lefel 3 o fewn terfyn amser penodol.
Gydag ymholiadau pellach am y swydd, cysylltwch â’r Rheolwr Tîm Maethu Danielle Ford: Danielle.ford@wrexham.gov.uk
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Danielle Ford |
Ffôn: | 01978 295310 |
Cyfeiriad e-bost: | danielle.ford@wrexham.gov.uk |