Gweithiwr Cymdeithasol/ Gweithiwt Cymdeithasol Profiadol - Maethu
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 26/05/2024 |
Dyddiad Postio: | 23/04/2024 |
Cyfeirnod: | 06236 |
Disgrifiad
G09 £35,745 - £38,223 y flwyddyn
G10 £39,186 - £42,403 y flwyddyn
Polisi Adleoli’n berthnasol
Rheoli, recriwtio, goruchwylio, cefnogi a datblygu gofalwyr maeth.
Yn Wrecsam rydym wedi datblygu tri chanolbwynt gwaith cymdeithasol sy’n cynnwys y canolbwynt recriwtio gofalwyr maeth, canolbwynt asesu gofalwr sy’n berthynas a’r tîm cymorth maethu. Mae hyn wedi galluogi Wrecsam i arbenigo eu gwasanaethau gan sicrhau bod gan y gweithwyr cymdeithasol ym mhob canolbwynt swyddogaeth benodol ble gallant gynnig profiad a chefnogaeth helaeth i ofalwyr maeth Wrecsam trwy gydol eu siwrnai, o fewn y broses asesu neu hyd at ofal hirdymor plentyn neu unigolyn ifanc.
Mae gan wasanaeth maethu Wrecsam gohort sefydlog a phrofiadol o staff, o’u gweithwyr cefnogi maethu hyd at lefelau uwch reolwyr. Mae Wrecsam yn falch o’r ffyrdd mae staff yn teimlo eu bod yn gallu mynd at eu rheolwyr ac uwch-reolwyr yn hyderus o ran unrhyw anawsterau neu broblemau sydd ganddynt.
Mae Wrecsam yn buddsoddi’n barhaus yn ein gofalwyr maeth a staff gyda phecynnau hyfforddiant helaeth yn cael eu datblygu ar hyn o bryd i ddiwallu anghenion o fewn ein cymdeithas gyfan.
Mae Wrecsam yn cynnig patrymau gweithio'n hyblyg sy’n creu gwell cydbwysedd gwaith / bywyd ar gyfer ein staff gan gynyddu cynhyrchiant a galluogi staff i weithio’n greadigol.
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Danielle Ford |
Ffôn: | 01978 295310 |
Cyfeiriad e-bost: | danielle.ford@wrexham.gov.uk |