Swyddog Gwarchod y Cyhoedd - Safonau Masnach
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | D0035 |
Dyddiad Cau: | 30/10/2022 |
Dyddiad Postio: | 27/09/2022 |
Cyfeirnod: | 06488 |
Disgrifiad
G10 £34,373 -
£37,568 y flwyddyn
Mae’r
Gwasanaeth Safonau Masnach yn Wrecsam wedi cael ei ailstrwythuro’n sylweddol yn
y misoedd diwethaf ac mae Arweinydd Tîm a dau Hyfforddai newydd wedi cael eu
penodi. Rydym yn awr yn chwilio am
swyddog cymwys arall i gwblhau’r tîm a chyfrannu ar y rheng flaen ar droseddau
stepen y drws, sgamiau, diogelwch cynnyrch, masnachu teg, gwerthu tybaco
anghyfreithlon ac i blant dan oed.
Efallai eich bod newydd gymhwyso neu efallai bod gennych flynyddoedd o
brofiad ar ôl cymhwyso, ond byddwch yn bendant yn rhywun brwdfrydig, sy’n gallu
cymell eich hun a bod yn aelod positif o dîm i gefnogi datblygiad eich
cydweithwyr yn ogystal â chi eich hun fel bod y gwasanaeth yn gallu darparu’r
gwasanaeth gorau bosibl i breswylwyr a busnesau’r Fwrdeistref Sirol.
Byddwch wedi
cymhwyso hyd at lefel DCATS/DTS neu gyfwerth ac mae’n bosibl y bydd gennych
gymhwyster mewn Pwysau a Mesurau hefyd.
Mae arnom eisiau i chi arwain ar ymchwiliadau, cwynion a gwaith prosiect
ble byddwch yn cael eich cefnogi gan gydweithwyr a byddwch chithau hefyd yn
cefnogi eich cydweithwyr gyda’u llwyth gwaith hwythau.
Rydym yn gosod
ein blaenoriaethau a’n llwyth gwaith yn ôl egwyddorion IOM a thros y
blynyddoedd rydym wedi bod yn gwella cydymffurfiaeth gyda llif gyson o ganlyniadau
llwyddiannus yn defnyddio’r holl offer gorfodi sydd gennym yn cynnwys erlyn a
gwahardd.
Rydym ar fin
symud i swyddfeydd sydd newydd gael eu hailwampio ac mae gennym ddiwylliant o
weithio'n hyblyg. Mae Dinas Wrecsam wrth wraidd economi Gogledd Ddwyrain Cymru,
yn agos at y ffin â Lloegr gyda mynediad rhagorol at olygfeydd godidog Gogledd
Cymru a dinasoedd mawr Gogledd Orllewin Lloegr.
Mae pecyn adleoli ar gael i’r ymgeisydd llwyddiannus os bydd angen symud
i gymryd y swydd.
I gael gwybod
mwy gallwch siarad â Roger Mapleson roger.mapleson@wrexham.gov.uk 01978 297450
neu Will Jones William.jones@wrexham.gov.uk 01978 297451
Mae’r Cyngor yn
croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw,
anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn
ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan
ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd
ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a
gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Roger Mapleson |
Ffôn: | 01978 297450 |
Cyfeiriad e-bost: | Roger.Mapleson@wrexham.gov.uk |