Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Prentisiaid (gwasanaethau amrywiol)

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Dros Dro
Categori:
Dyddiad Cau: 11/09/2022
Dyddiad Postio: 27/08/2022
Cyfeirnod: 06673

Disgrifiad

 Cyfradd Prentis Blwyddyn 1: £4.81 yr awr, £9,279 y flwyddyn

 Lleoliad: Amrywiol, Oriau 37 yr wythnos

 Cytundeb 2 flynedd

 Mae gennym leoliadau prentisiaeth newydd gwych yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar draws amrywiaeth o feysydd gwasanaeth.  Byddai’r cyfleoedd hyn yn le gwych i gychwyn eich gyrfa a gweithio tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol mewn maes sydd o ddiddordeb i chi.  Byddwch yn cael cefnogaeth lawn gydag amrywiaeth o gyfleoedd a chael profiad gwaith amrywiol a gwerthfawr yn y gwaith ac yn mynd i goleg/prifysgol ar ddiwrnodau astudio. Os hoffech gychwyn eich gyrfa gyda'n Cyngor, byddwch yn cael datblygiad wedi ei deilwra yn unigol a fydd yn eich cynorthwyo yn y dyfodol gyda chyfleoedd swyddi gyda ni yma yn Wrecsam, darllenwch y ganllaw hon a gwnewch gais nawr i gychwyn ym mis Hydref!

Rydym yn chwilio am unigolion sydd â’r agwedd, gwerthoedd a’r ymddygiad gwaith cywir gyda’r dyhead i weithio i ni i wasanaethu dinasyddion Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

 Mae nifer o leoliadau mewn gwasanaethau ar gael yn:

 - Gwasanaethau Addysg ac Ymyrraeth Gynnar

- Cyllid a TGCh

- Gwasanaeth Cwsmeriaid, Digidol

- Tai

- Gofal Cymdeithasol

AD a DS, Perfformiad a Gwelliant

Economi a Chynllunio

Darllenwch ein canllaw prentis ar y dudalen swyddi pan fyddwch yn gwneud cais ar-lein.  Mae hwn yn egluro’r sgiliau sydd eu hangen, beth i’w gynnwys ar y ffurflen gais a mwy o wybodaeth am y lleoliadau hyn.

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed. 

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

 

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: HR Service Centre
Ffôn: 01978 292070
Cyfeiriad e-bost: HRServiceCentre@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr