Cymhorthydd Canolfan Wybodaeth i Ymwelwyr x 2
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Rhan Amser Parhaol |
Categori: | Gwasanaethau'r Prif Weithredwr |
Dyddiad Cau: | 02/01/2023 |
Dyddiad Postio: | 13/12/2022 |
Cyfeirnod: | 06743 |
Disgrifiad
G04 £21,189 - £21,575 Pro rata (£10.98 - £11.18 yr
awr)
Lleolir yn y Ganolfan
Wybodaeth i Ymwelwyr yng Nghanol Dinas Wrecsam
27.5 awr yr wythnos (Dydd
Llun - Dydd Sadwrn)
Mae’r
tîm Canol Dinas, Celfyddydau a Digwyddiadau yn dymuno penodi dau gynorthwy-ydd
canolfan gwybodaeth i ymwelwyr sydd yn
llawn cymhelliant, i ymuno â thîm prysur sydd yn hyrwyddo cynnig twristiaeth yn
y Fwrdeistref Sirol. Mae’r tîm Canolfan
Wybodaeth i Ymwelwyr wedi symud yn ddiweddar i uned fodern a adnewyddwyd yn
llawn ar Stryt Caer yng Nghanol Dinas Wrecsam, gan ganiatáu i’r ganolfan barhau
i ddarparu lefel digystadleuol o wybodaeth dwristiaeth am y Fwrdeistref sirol,
ynghyd â chynnig manwerthu cadarn yn cynnwys bwyd a diod lleol, crefftau a
nwyddau a gallu llwyfannu digwyddiadau bach o fudd i gynhyrchwyr lleol a’r
busnes lletygarwch.
Bydd deiliaid y swydd yn bennaf wedi’u lleoli yng Nghanolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr Wrecsam yng Nghanol Dinas Wrecsam, a byddant yn darparu profiad a chroeso rhagorol yn y ganolfan gwybodaeth i ymwelwyr. O dro i dro, bydd gofyn i ddeiliad y swydd hyrwyddo cynnig twristiaeth y Sir mewn digwyddiadau amrywiol o fewn y Fwrdeistref Sirol fel bo’r angen.
Bydd yn swydd sydd yn wynebu cwsmeriaid ac yn dibynnu’n drwm ar lefel ragorol o wasanaeth i gwsmeriaid a gwerthiant manwerthu i gefnogi’r gwaith parhaus o hyrwyddo Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chanol Dinas Wrecsam i fanwerthwyr, siopwyr ac ymwelwyr - er mwyn sicrhau twf parhaus a datblygiad yr economi ymwelwyr.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:
- - Bersonoliaeth gadarnhaol a gwybodaeth dda am yr amgylchedd manwerthu.
- - Gwybodaeth eang am ganol y dref a chynnig twristiaeth Bwrdeistref Sirol Wrecsam (bydd hyfforddiant ychwanegol yn cael ei ddarparu).
- - Dangos sgiliau rhyngbersonol ardderchog a chyfathrebu’n dda gyda’r tîm a’r cyhoedd.
- - Gydag agwedd hyblyg, cydweithredol ac yn fodlon gweithio rhai penwythnosau a min nos yn dibynnu ar anghenion y busnes.
Mae cyfle hefyd i atodi eich CV, pan fyddwch yn cyflwyno ffurflen gais.
Os ydych angen rhagor o wybodaeth am y swydd, gallwch gysylltu â Joe Bickerton, Rheolwr Cyrchfan joe.bickerton@wrexham.gov.uk
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan
ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb,
cred grefyddol nac oed.
Mae'r
Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu
ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn
Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael
eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Joe Bickerton |
Ffôn: | 01978 292461 |
Cyfeiriad e-bost: | Joe.Bickerton@wrexham.gov.uk |