Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Cymhorthydd Canolfan Wybodaeth i Ymwelwyr x 2

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Rhan Amser Parhaol
Categori: Gwasanaethau'r Prif Weithredwr
Dyddiad Cau: 02/01/2023
Dyddiad Postio: 13/12/2022
Cyfeirnod: 06743

Disgrifiad

G04 £21,189 - £21,575 Pro rata (£10.98 - £11.18 yr awr) 

Lleolir yn y Ganolfan Wybodaeth i Ymwelwyr yng Nghanol Dinas Wrecsam

27.5 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Sadwrn)

Mae’r tîm Canol Dinas, Celfyddydau a Digwyddiadau yn dymuno penodi dau gynorthwy-ydd canolfan gwybodaeth i  ymwelwyr sydd yn llawn cymhelliant, i ymuno â thîm prysur sydd yn hyrwyddo cynnig twristiaeth yn y Fwrdeistref Sirol.   Mae’r tîm Canolfan Wybodaeth i Ymwelwyr wedi symud yn ddiweddar i uned fodern a adnewyddwyd yn llawn ar Stryt Caer yng Nghanol Dinas Wrecsam, gan ganiatáu i’r ganolfan barhau i ddarparu lefel digystadleuol o wybodaeth dwristiaeth am y Fwrdeistref sirol, ynghyd â chynnig manwerthu cadarn yn cynnwys bwyd a diod lleol, crefftau a nwyddau a gallu llwyfannu digwyddiadau bach o fudd i gynhyrchwyr lleol a’r busnes lletygarwch.

Bydd deiliaid y swydd yn bennaf wedi’u lleoli yng Nghanolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr Wrecsam yng Nghanol Dinas Wrecsam, a byddant yn darparu profiad a chroeso rhagorol yn y ganolfan gwybodaeth i ymwelwyr.   O dro i dro, bydd gofyn i ddeiliad y swydd hyrwyddo cynnig twristiaeth y Sir mewn digwyddiadau amrywiol o fewn y Fwrdeistref Sirol fel bo’r angen.   

Bydd yn swydd sydd yn wynebu cwsmeriaid ac yn dibynnu’n drwm ar lefel ragorol o wasanaeth i gwsmeriaid a gwerthiant manwerthu i gefnogi’r gwaith parhaus o hyrwyddo Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chanol Dinas Wrecsam i fanwerthwyr, siopwyr ac ymwelwyr - er mwyn sicrhau twf parhaus a datblygiad yr economi ymwelwyr. 

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus: 

  • -       Bersonoliaeth gadarnhaol a gwybodaeth dda am yr amgylchedd manwerthu.
  • -       Gwybodaeth eang am ganol y dref a chynnig twristiaeth Bwrdeistref Sirol Wrecsam (bydd hyfforddiant ychwanegol yn cael ei ddarparu).
  • -       Dangos sgiliau rhyngbersonol ardderchog a chyfathrebu’n dda gyda’r tîm a’r cyhoedd.
  • -       Gydag agwedd hyblyg, cydweithredol ac yn fodlon gweithio rhai penwythnosau a min nos yn dibynnu ar anghenion y busnes. 

Mae cyfle hefyd i atodi eich CV, pan fyddwch yn cyflwyno ffurflen gais.

Os ydych angen rhagor o wybodaeth am y swydd, gallwch gysylltu â Joe Bickerton, Rheolwr Cyrchfan joe.bickerton@wrexham.gov.uk 

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

 

 

 

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Joe Bickerton
Ffôn: 01978 292461
Cyfeiriad e-bost: Joe.Bickerton@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr