Mecanig Cerbydau
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Amgylchedd a Thechnegol |
Dyddiad Cau: | 29/05/2023 |
Dyddiad Postio: | 11/05/2023 |
Cyfeirnod: | 06800 |
Disgrifiad
G08 £29,439 i £32,020 y flwyddyn am wythnos 37 awr o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Ydych chi'n
chwilio am yrfa gyda rhagolygon hirdymor? Oes gennych chi lygad am fanylion ac
angerdd am ansawdd? Ydych chi eisiau ymuno â thîm sy'n ymdrechu i arwain lle
mae eraill yn dilyn?
Rydym yn dymuno
penodi unigolyn brwdfrydig, cydwybodol a hunan-gymhellol a fydd yn chwarae rhan
allweddol wrth ddarparu ystod amrywiol o wasanaethau ym Mwrdeistref Sirol
Wrecsam, gan sicrhau amgylchedd croesawgar a diogel i Ddinas Wrecsam yn ogystal
â'r gymuned ehangach.
Rydym yn
buddsoddi'n helaeth mewn darparu'r offer, y cerbydau, yr hyfforddiant a'r
datblygiad gorau i'n timau. Gallech fod yn cymryd eich lle mewn tîm cynyddol
sy'n mynd o nerth i nerth.
Rydym yn
awyddus i benodi mecanic cerbydau cymwys yn ein gweithdy yn seiliedig ar Ystad
Ddiwydiannol Wrecsam.
Rydym yn
ymfalchïo mewn datblygu ein staff, gan ddarparu cyfleoedd i ddod yn dra medrus
mewn ystod eang o ddisgyblaethau. Hawl gwyliau blynyddol hael a chynllun
pensiwn awtomatig. Mae cyfleoedd hefyd i roi hwb sylweddol i'r potensial i
ennill trwy gymryd rhan yn ein hymatebion y tu allan i oriau arferol a
gweithrediadau graeanu yn y gaeaf.
Mae’r Cyngor yn
croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw,
anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn
ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan
ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd
ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a
gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | DavidM Jones |
Ffôn: | 01978 729763 |
Cyfeiriad e-bost: | DavidM.Jones@wrexham.gov.uk |