Gweithiwr Cymdeithasol/ Gweithiwt Cymdeithasol Profiadol - Tîm Gadael Gofal
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 18/02/2024 |
Dyddiad Postio: | 01/02/2024 |
Cyfeirnod: | 06853 |
Disgrifiad
G09 £35,745 -
£38,223 y flwyddyn
G10 £39,186 -
£42,403 y flwyddyn
Mae Cyngor
Bwrdeistref Sirol Wrecsam am benodi gweithiwr cymdeithasol llawn amser, llawn
cymhelliant i ymuno â'r Tîm Gadael Gofal. Mae hon yn swydd barhaol a byddwch yn
un o 5 o weithiwr cymdeithasol, yn gweithio ochr yn ochr â 5 cynghorydd
personol, gweithiwr cymorth ac yn atebol i'r Rheolwr Tîm Cynorthwyol a'r
Rheolwr Tîm.
Mae hwn yn
gyfle cyffrous i unrhyw ymgeisydd sydd am weithio gyda phobl ifanc 16-25 oed
sydd â Phrofiad Gofal. Rydym am i Wrecsam fod yn fan lle mae pobl ifanc sydd â
Phrofiad Gofal yn cael y cyfle gorau i symud ymlaen â llwybrau cadarnhaol at
annibyniaeth a chael y buddion bywyd mwyaf posibl, o gyfleoedd addysgol, iechyd a gofal
cymdeithasol.
Mae gan y tîm
ddyletswydd i sicrhau fod pob person ifanc â Phrofiad Gofal mewn llety sy’n
diwallu eu hanghenion, yn adlewyrchu eu hawl i ddiogelwch ac yn eu hannog i
gyrraedd eu potensial ar bob cam o’u datblygiad, wrth ddiogelu a hybu eu lles.
Mae hyn yn cynnwys cefnogi’r holl bobl ifanc sydd â Phrofiad Gofal i gyflawni
eu potensial addysgol llawn ac i hybu eu hiechyd corfforol a meddyliol a’u lles
emosiynol.
Er mwyn
cyflawni'r amcanion hyn rydym eisiau rhywun a all sicrhau bod gwasanaethau o
ansawdd uchel ac yn rhagori ar safonau cenedlaethol. Bydd angen i chi weithio
ar draws gwasanaethau, y cyngor a phartneriaid i gynnal arfer rhagorol a
pherthnasoedd gwaith.
Bydd angen i
chi fod yn brofiadol o weithio gyda phobl ifanc sydd â Phrofiad Gofal a dod â
syniadau arloesol a fydd yn parhau i wella’r cymorth y mae pobl ifanc yn ei
gael gan y gwasanaeth.
Am ymholiadau
pellach am y rôl, cysylltwch â Leah Feeley-Jones ar 01978
295613.
Mae angen
cofrestriad uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a Chyngor Cymdeithasol
Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn
croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas waeth beth fo'u hil,
rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae'r Cyngor yn
ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan
ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd
ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a
gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Leah Feeley-Jones |
Ffôn: | 01978 295613 |
Cyfeiriad e-bost: | Leah.Feeley-Jones@wrexham.gov.uk |