Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol - Tîm Asesu ac Ymyrryd
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 03/03/2024 |
Dyddiad Postio: | 19/02/2024 |
Cyfeirnod: | 06918 |
Disgrifiad
Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol - Tîm Asesu ac Ymyrryd
G10 £39,186 - £42,403 y flwyddyn
Ydych chi’n Weithiwr Cymdeithasol profiadol sydd yn
chwilio am her newydd i wella bywydau pobl - os ydi hyn yn apelio i chi, yna
does dim rhaid edrych ymhellach!
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyfle cyffrous o
fewn ein tîm Asesu ac Ymyrryd fel gweithiwr cymdeithasol profiadol.
Rydym ni’n chwilio am unigolyn sydd yn ymrwymedig i
ganlyniadau plant a phobl ifanc, sydd yn wrth-wahaniaethol ac yn wrthormesol ac
a fydd y eirioli dros blant a phobl ifanc. Bydd angen i chi fod yn llawn
cymhelliant a bydd gennych sgiliau asesu da. Os ydi hyn yn apelio i chi, yna fe
garem glywed gennych chi.
Mae Wrecsam yn lle gwerth chweil i weithio, mae gennym
oriau amrywiol ar gael, ac mae’r cyfan yn cael ei gynnig ar gontractau parhaol. Yn
gyfnewid, byddwch yn derbyn cyflog cystadleuo sef £39,186 - £42,403 y flwyddyn, pensiwn
awdurdod lleol deniadol, hyfforddiant a datblygiad gyrfaol, a
chymelldaliad recriwtio a chadw staff o £5,992.
Pam ymuno â’r Tîm Asesu ac Ymyrryd fel Gweithiwr
Cymdeithasol i Blant?
Tîm Gwaith Cymdeithasol yw’r Tîm Asesu ac Ymyrryd sydd yn
cynnal asesiadau cynhwysfawr gyda theuluoedd allai fod yn wynebu
anawsterau. Mae’r tîm hefyd yn cwblhau ymholiadau amddiffyn plant
cychwynnol sydd yn cyrraedd yr adran ac yn asesu’r teulu. Trwy gydol
eu gwaith, mae’r Tîm Asesu ac Ymyrryd wedi ymrwymo i hyrwyddo canlyniadau
cadarnhaol i bobl a’r teuluoedd maent yn gweithio gyda nhw. Rydym yn gweithio’n
galed i gadw teuluoedd gyda’i gilydd ond yn cymryd camau pan fo angen i sicrhau
diogelwch tymor canolig a hirdymor plant.
Rydym yn cynnal ciniawau a digwyddiadau dathlu aelodau’r
tîm yn rheolaidd, o benblwyddi i seibiant mamolaeth a dyrchafiadau
staff. Rydym yn rhagweithiol yn yr adran gan greu ymdeimlad o
gymuned ac rydym ni’n cynnal digwyddiadau codi arian yn rheolaidd i helpu
achosion lleol ac arbennig. Rydym ni’n gwerthfawrogi aelodau ein tîm a’u gwaith
caled tuag at gontinwwm datblygu a chynnydd y tîm. Rydym yn cynnal cyfarfodydd
tîm, goruchwyliaeth a thrafodaethau anffurfiol pwysig iawn yn rheolaidd. Mae’r
rhain yn galluogi staff i ymlacio a chefnogi ei gilydd yn emosiynol drwy siarad
am unrhyw achosion anodd y maent yn dod ar eu traws.
Rydym yn cydnabod bod iechyd, diogelwch a lles o ansawdd
dda yn rhan annatod o gydbwysedd bywyd-gwaith iach ac rydym yn falch o greu
amgylchedd cadarnhaol lle gall Gweithwyr Cymdeithasol gyflawni canlyniadau
ystyriol ac sy’n cael effaith.
Buddion ychwanegol y byddwch yn eu derbyn fel Gweithiwr
Cymdeithasol Plant
· Hyd
at 32 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn
· Mynediad
at becyn ad-leoli hyd at £5,000
· Opsiynau
gweithio’n hyblyg a’n hymrwymiad i gefnogi iechyd a lles.
· Rhaglen
ymgynefino fanwl
· Rhaglen
Cymorth i Weithwyr
Mae’r rôl hwn yn cefnogi gweithio’n hybrid, cydbwysedd
rhwng gweithio gartref a gweithio mewn swyddfa.
Mae’r swydd Gweithiwr Cymdeithasol profiadol yn y Tîm
Asesu ac Ymyrryd yn derbyn cymelldaliad recriwtio o £2,996 fel croeso i’r
Cyngor.
Mewn amodau penodol efallai y bydd cymelldaliad cadw
staff ychwanegol o £2,996 yn berthnasol ar ôl blwyddyn yn eich swydd os ydych
yn parhau yn y gwasanaeth mewn rôl / tîm cymwys.
Bydd y cymelldaliad hwn yn pro rata i weithwyr rhan amser
ac mae’n destun gostyngiadau arferol gweithwyr e.e. pensiwn, Yswiriant Gwladol
a Threth ac mae amodau a thelerau eraill yn berthnasol. Gweler
y nodyn Canllawiau Taliadau Recriwtio a Chadw Staff i gael rhagor o
fanylion.
Gweler ein buddion i weithwyr sydd ar gael tra’n gweithio
i’r Cyngor os yw eich cais yn llwyddiannus (Gweithio i ni | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam)
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a
Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â
chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol
nac oed.
Mae'r Cyngor yn
ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan
ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni
fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na
chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Sarah Gray |
Ffôn: | 01978 292506 |
Cyfeiriad e-bost: | SarahJ.Gray@wrexham.gov.uk |