Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol – Tîm Plant Sy'n Derbyn Gofal
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 28/04/2024 |
Dyddiad Postio: | 15/04/2024 |
Cyfeirnod: | 06919 |
Disgrifiad
Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol – Tîm Plant Sy'n
Derbyn Gofal
G10 £39,186 - £42,403 y flwyddyn
Ydych chi’n Weithiwr Cymdeithasol profiadol sydd yn
chwilio am her newydd i wella bywydau pobl - os ydi hyn yn apelio i chi, yna
does dim rhaid edrych ymhellach!
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyfle
cyffrous o fewn ein tîm Plant Sy’n Derbyn Gofal fel gweithiwr cymdeithasol
profiadol.
Rydym ni’n chwilio am unigolyn sydd yn ymrwymedig i
ganlyniadau plant sy’n derbyn gofal, sydd yn wrth-wahaniaethol ac yn
wrthormesol ac a fydd y eirioli dros blant a phobl ifanc. Bydd angen i chi fod
yn llawn cymhelliant a bydd gennych sgiliau asesu da. Os ydi hyn yn apelio i
chi, yna fe garem glywed gennych chi.
Mae Wrecsam yn lle gwerth chweil i weithio, mae
gennym oriau amrywiol ar gael, ac mae’r cyfan yn cael ei gynnig ar gontractau
parhaol. Yn gyfnewid, byddwch yn derbyn cyflog cystadleuol of £39,186 - £42,403 y
flwyddyn, pensiwn awdurdod lleol deniadol, hyfforddiant a datblygiad
gyrfaol, a chymelldaliad recriwtio a chadw staff o £5,992.
Pam ymuno â Thîm Plant Sy’n Derbyn Gofal fel
Gweithiwr Cymdeithasol Plant?
Mae’r Tîm Plant sy’n Derbyn Gofal yn
cynnwys cymysgedd o weithwyr cymdeithasol profiadol a rhai sydd newydd gymhwyso
a phedwar Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd, sydd yn cefnogi ei
gilydd. Mae cefnogaeth a mentora ychwanegol yn cael ei ddarparu gan
Reolwr Tîm a dau Reolwr Tîm Cynorthwyol. Rhagorol yw’r unig air i
ddisgrifio’r swyddfa olau a helaeth sydd yn hwyluso gwaith tîm
effeithiol. Yr awyrgylch rhwng bob tîm yw parch gan gefnogi ei gilydd gyda’r
weledigaeth a rennir i wella canlyniadau i’r plant yn Wrecsam maent yn eu
cefnogi.
Rydym ni’n adran gymharol fach ac mae’r staff i gyd
wedi’u lleoli ar un llawr yn yr adeilad, ac mae hyn yn ei gwneud hi’n llawer
haws i ffurfio perthnasoedd proffesiynol. Rydym ni’n ffodus iawn fod
gennym ni brosiect Gweithredu dros Blant yn Wrecsam, sydd yn darparu
gwasanaethau therapiwtig i blant a phobl ifanc yn ogystal â gwasanaeth
ymgynghori i weithwyr cymdeithasol.
Rydym yn cynnal cyfarfodydd tîm, goruchwyliaeth a
thrafodaethau anffurfiol pwysig iawn yn rheolaidd. Mae’r rhain yn galluogi
staff i ymlacio a chefnogi ei gilydd yn emosiynol drwy siarad am unrhyw
achosion anodd y maent yn dod ar eu traws.
Rydym yn cydnabod bod iechyd, diogelwch a lles o
ansawdd dda yn rhan annatod o gydbwysedd bywyd-gwaith iach ac rydym yn falch o greu
amgylchedd cadarnhaol lle gall Gweithwyr Cymdeithasol gyflawni canlyniadau
ystyriol ac sy’n cael effaith.
Buddion ychwanegol y byddwch yn eu derbyn fel
Gweithiwr Cymdeithasol Plant
- Hyd at
32 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn
- Mynediad
at becyn ad-leoli hyd at £5,000
- Opsiynau
gweithio’n hyblyg a’n hymrwymiad i gefnogi iechyd a lles.
- Rhaglen
ymgynefino fanwl
- Rhaglen
Cymorth i Weithwyr
Mae’r rôl hwn yn cefnogi gweithio’n hybrid,
cydbwysedd rhwng gweithio gartref a gweithio mewn swyddfa.
Mae’r swydd Gweithiwr Cymdeithasol profiadol yn y
Tîm Plant Sy’n Derbyn Gofal yn derbyn cymelldaliad recriwtio o £2,996 fel
croeso i’r Cyngor.
Mewn amodau penodol efallai y bydd cymelldaliad
cadw staff ychwanegol o £2,996 yn berthnasol ar ôl blwyddyn yn eich swydd os
ydych yn parhau yn y gwasanaeth mewn rôl / tîm cymwys.
Bydd y cymelldaliad hwn yn pro rata i weithwyr rhan
amser ac mae’n destun gostyngiadau arferol gweithwyr e.e. pensiwn, Yswiriant
Gwladol a Threth ac mae amodau a thelerau eraill yn berthnasol. Gweler
y nodyn Canllawiau Taliadau Recriwtio a Chadw Staff i gael rhagor o
fanylion.
Gweler ein buddion i weithwyr sydd ar gael tra’n
gweithio i’r Cyngor os yw eich cais yn llwyddiannus (Gweithio i ni | Cyngor Bwrdeistref
Sirol Wrecsam)
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a
Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â
chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol
nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu
dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i
weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn
cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Deborah Brandley |
Ffôn: | 01978 295346 |
Cyfeiriad e-bost: | Deborah.Brandley@wrexham.gov.uk |