Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol - Tîm Cymorth i Deuluoedd
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 14/04/2024 |
Dyddiad Postio: | 15/04/2024 |
Cyfeirnod: | 06920 |
Disgrifiad
Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol - Tîm Cymorth i Deuluoedd
G10 £39,186 - £42,403 y flwyddyn
Ydych chi’n Weithiwr Cymdeithasol profiadol sydd yn chwilio am her
newydd i wella bywydau pobl - os ydi hyn yn apelio i chi, yna does dim rhaid
edrych ymhellach!
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyfle
cyffrous o fewn ein tîm Cymorth i Deuluoedd fel gweithiwr cymdeithasol
profiadol.
Rydym ni’n chwilio am unigolyn sydd yn ymrwymedig i
ganlyniadau plant a phobl ifanc, sydd yn wrth-wahaniaethol ac yn wrthormesol ac
a fydd y eirioli dros blant a phobl ifanc. Bydd angen i chi fod yn llawn
cymhelliant a bydd gennych sgiliau asesu da. Os ydi hyn yn apelio i chi, yna fe
garem glywed gennych chi.
Mae Wrecsam yn lle gwerth chweil i weithio, mae
gennym oriau amrywiol ar gael, ac mae’r cyfan yn cael ei gynnig ar gontractau
parhaol. Yn gyfnewid, byddwch yn derbyn cyflog cystadleuol sef £39,186 -
£42,403 y flwyddyn, pensiwn awdurdod lleol deniadol, hyfforddiant a
datblygiad gyrfaol, a chymelldaliad recriwtio a chadw staff o
£5,992.
Pam ymuno â Thîm Cymorth i Deuluoedd fel Gweithiwr
Cymdeithasol Plant?
Mae’r Tîm Cymorth i Deuluoedd yn darparu
gwasanaethau amddiffyn plant statudol a gwasanaethau cymorth i deuluoedd i
blant a theuluoedd sydd wedi cael eu hasesu a’u bod angen gwasanaethau i
fodloni anghenion plant diamddiffyn, er mwyn hyrwyddo eu lles emosiynol, corfforol
a chymdeithasol. Mae’r tîm hefyd yn darparu gwasanaethau i blant sydd yn derbyn
gofal, gan ddilyn gweithdrefnau i gychwyn ar achosion gofal yn y llysoedd
teulu, a’r rhai sydd yn mynd drwy achosion cyfreithiol preifat.
Rydym yn cynnal ciniawau a digwyddiadau dathlu
aelodau’r tîm yn rheolaidd, o benblwyddi i seibiant mamolaeth a dyrchafiadau
staff. Rydym yn cynnal cyfarfodydd tîm, goruchwyliaeth a
thrafodaethau anffurfiol pwysig iawn yn rheolaidd. Mae’r rhain yn galluogi
staff i ymlacio a chefnogi ei gilydd yn emosiynol drwy siarad am unrhyw
achosion anodd y maent yn dod ar eu traws.
Rydym yn cydnabod bod iechyd, diogelwch a lles o
ansawdd dda yn rhan annatod o gydbwysedd bywyd-gwaith iach ac rydym yn falch o
greu amgylchedd cadarnhaol lle gall Gweithwyr Cymdeithasol gyflawni canlyniadau
ystyriol ac sy’n cael effaith.
Buddion ychwanegol y byddwch yn eu derbyn fel
Gweithiwr Cymdeithasol Plant
· Hyd
at 32 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn
· Mynediad
at becyn ad-leoli hyd at £5,000
· Opsiynau
gweithio’n hyblyg a’n hymrwymiad i gefnogi iechyd a lles.
· Rhaglen
ymgynefino fanwl
· Rhaglen
Cymorth i Weithwyr
Mae’r rôl hwn yn cefnogi gweithio’n hybrid,
cydbwysedd rhwng gweithio gartref a gweithio mewn swyddfa.
Mae’r swydd Gweithiwr Cymdeithasol profiadol yn y
Tîm Cymorth i Deuluoedd yn derbyn cymelldaliad recriwtio o £2,996 fel croeso
i’r Cyngor.
Mewn amodau penodol efallai y bydd cymelldaliad
cadw staff ychwanegol o £2,996 yn berthnasol ar ôl blwyddyn yn eich swydd os
ydych yn parhau yn y gwasanaeth mewn rôl / tîm cymwys.
Bydd y cymelldaliad hwn yn pro rata i weithwyr rhan
amser ac mae’n destun gostyngiadau arferol gweithwyr e.e. pensiwn, Yswiriant
Gwladol a Threth ac mae amodau a thelerau eraill yn berthnasol. Gweler
y nodyn Canllawiau Taliadau Recriwtio a Chadw Staff i gael rhagor o fanylion.
Gweler ein buddion i weithwyr sydd ar gael tra’n
gweithio i’r Cyngor os yw eich cais yn llwyddiannus (Gweithio
i ni | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam)
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a
Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae’r Cyngor yn
croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw,
anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn
ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan
ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni
fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na
chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Mike Jones |
Ffôn: | 01978 298605 |
Cyfeiriad e-bost: | Mike.Jones@wrexham.gov.uk |