Gweithiwr Cymdeithasol - Tîm Asesu ac Ymyrryd
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 03/03/2024 |
Dyddiad Postio: | 19/02/2024 |
Cyfeirnod: | 06937 |
Disgrifiad
Gweithiwr Cymdeithasol - Tîm Asesu ac Ymyrryd
G09 £35,745 - £38,223 y flwyddyn
Ydych chi’n Weithiwr
Cymdeithasol sydd yn chwilio am her newydd i wella bywydau pobl - os ydi hyn yn
apelio i chi, yna does dim rhaid edrych ymhellach!
Mae gan Gyngor
Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyfle cyffrous o fewn ein tîm Asesu ac Ymyrryd fel
gweithiwr cymdeithasol.
Rydym ni’n chwilio
am unigolyn sydd yn ymrwymedig i ganlyniadau plant a phobl ifanc, sydd yn
wrth-wahaniaethol ac yn wrthormesol ac a fydd y eirioli dros blant a phobl
ifanc. Bydd angen i chi fod yn llawn cymhelliant a bydd gennych sgiliau asesu
da. Os ydi hyn yn apelio i chi, yna fe garem glywed gennych chi.
Mae Wrecsam yn lle
gwerth chweil i weithio, mae gennym oriau amrywiol ar gael, ac mae’r cyfan yn
cael ei gynnig ar gontractau parhaol. Yn gyfnewid, byddwch yn derbyn
cyflog cystadleuol sef £35,745 - £38,223 y flwyddyn, pensiwn awdurdod
lleol deniadol, cyfle i ddatblygu i fod yn weithiwr cymdeithasol profiadol, ar
yr amod eich bod yn cyrraedd meini prawf penodol, a chymelldaliad recriwtio o
£2,996.
Pam ymuno â’r Tîm
Asesu ac Ymyrryd fel Gweithiwr Cymdeithasol Plant?
Tîm Gwaith
Cymdeithasol yw’r Tîm Asesu ac Ymyrryd sydd yn cynnal asesiadau cynhwysfawr
gyda theuluoedd allai fod yn wynebu anawsterau. Mae’r tîm hefyd yn
cwblhau pob ymholiad amddiffyn plant cychwynnol i’r adran ac yn asesu’r teulu.
Trwy gydol eu gwaith mae’r Tîm Asesu ac Ymyrryd wedi ymrwymo i hyrwyddo
canlyniadau cadarnhaol i’r bobl ifanc a theuluoedd maent yn gweithio â
nhw. Rydym yn gweithio’n galed i gadw teuluoedd gyda’i gilydd, ond
rydym yn cymryd camau pan fo angen er mwyn sicrhau diogelwch tymor canolig a
hir dymor plant.
Rydym yn cynnal
ciniawau a digwyddiadau dathlu aelodau’r tîm yn rheolaidd, o benblwyddi i
seibiant mamolaeth a dyrchafiadau staff. Rydym yn rhagweithiol yn yr
adran gan greu ymdeimlad o gymuned ac rydym ni’n cynnal digwyddiadau codi arian
yn rheolaidd i helpu achosion lleol ac arbennig. Rydym ni’n gwerthfawrogi
aelodau ein tîm a’u gwaith caled tuag at gontinwwm datblygu a chynnydd y tîm.
Rydym yn cynnal cyfarfodydd tîm, goruchwyliaeth a thrafodaethau anffurfiol
pwysig iawn yn rheolaidd. Mae’r rhain yn galluogi staff i ymlacio a chefnogi ei
gilydd yn emosiynol drwy siarad am unrhyw achosion anodd y maent yn dod ar eu
traws.
Rydym yn cydnabod
bod iechyd, diogelwch a lles o ansawdd dda yn rhan annatod o gydbwysedd
bywyd-gwaith iach ac rydym yn falch o greu amgylchedd cadarnhaol lle gall
Gweithwyr Cymdeithasol gyflawni canlyniadau ystyriol ac sy’n cael effaith.
Buddion ychwanegol
y byddwch yn eu derbyn fel Gweithiwr Cymdeithasol Plant
· Hyd
at 32 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn
· Mynediad
at becyn ad-leoli hyd at £5,000
· Opsiynau
gweithio’n hyblyg a’n hymrwymiad i gefnogi iechyd a lles.
· Rhaglen
ymgynefino fanwl
· Rhaglen
cymorth i weithwyr
Mae’r rôl hwn yn
cefnogi gweithio’n hybrid, cydbwysedd rhwng gweithio gartref a gweithio mewn
swyddfa.
Mae’r swydd
Gweithiwr Cymdeithasol yn y Tîm Asesu ac Ymyrryd yn derbyn
cymelldaliad recriwtio o £2,996 fel croeso i’r Cyngor.
Mae’r taliad yma’n
pro rata ar gyfer gweithwyr rhan amser. Mae’r taliad yn destun
didyniadau gweithiwr arferol e.e. pensiwn, Yswiriant Gwladol a Threth ac mae
amodau a thelerau eraill yn berthnasol, gweler y nodyn Canllawiau Taliadau
Recriwtio a Chadw Staff i gael rhagor o fanylion.
Gweler ein buddion
i weithwyr sydd ar gael tra’n gweithio i’r Cyngor os yw eich cais yn
llwyddiannus (Gweithio
i ni | Cyngor Bwrdeistref SirolWrecsam)
Mae angen gwiriad manwl gan y
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer
y swydd hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan
ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb,
cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu
ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu
gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd
ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a
gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Sarah Gray |
Ffôn: | 01978 292506 |
Cyfeiriad e-bost: | SarahJ.Gray@wrexham.gov.uk |