Gweithiwr Cymdeithasol - Tîm Cymorth i Deuluoedd
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 18/02/2024 |
Dyddiad Postio: | 02/02/2024 |
Cyfeirnod: | 06938 |
Disgrifiad
Gweithiwr Cymdeithasol - Tîm
Cymorth i Deuluoedd
G09
£35,745 - £38,223 y flwyddyn
Ydych chi’n Weithiwr Cymdeithasol Cymwys sydd yn chwilio am her newydd i
wella bywydau pobl - os ydi hyn yn apelio i chi, yna does dim rhaid edrych
ymhellach!
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyfle
cyffrous o fewn ein tîm Cymorth i Deuluoedd fel gweithiwr cymdeithasol.
Rydym ni’n chwilio am unigolyn sydd yn ymrwymedig i
ganlyniadau plant a phobl ifanc, sydd yn wrth-wahaniaethol ac yn wrthormesol ac
a fydd y eirioli dros blant a phobl ifanc. Bydd angen i chi fod yn llawn
cymhelliant a bydd gennych sgiliau asesu da. Os ydi hyn yn apelio i chi, yna fe
garem glywed gennych chi.
Mae Wrecsam yn lle gwerth chweil i weithio, mae
gennym oriau amrywiol ar gael, ac mae’r cyfan yn cael ei gynnig ar gontractau
parhaol. Yn gyfnewid, byddwch yn derbyn cyflog cystadleuol sef £35,745 -
£38,223 y flwyddyn, pensiwn awdurdod lleol deniadol, cyfle i ddatblygu i
fod yn weithiwr cymdeithasol profiadol, ar yr amod eich bod yn cyrraedd meini
prawf penodol, a chymelldaliad recriwtio o £2,996.
Pam ymuno â Thîm Cymorth i Deuluoedd fel Gweithiwr
Cymdeithasol Plant?
Mae’r Tîm Cymorth i Deuluoedd yn darparu
gwasanaethau amddiffyn plant statudol a gwasanaethau cymorth i deuluoedd i
blant a theuluoedd sydd wedi cael eu hasesu a’u bod angen gwasanaethau i
fodloni anghenion plant diamddiffyn, er mwyn hyrwyddo eu lles emosiynol,
corfforol a chymdeithasol. Mae’r tîm hefyd yn darparu gwasanaethau i blant sydd
yn derbyn gofal, gan ddilyn gweithdrefnau i gychwyn ar achosion gofal yn y
llysoedd teulu, a’r rhai sydd yn mynd drwy achosion cyfreithiol preifat.
Rydym yn cynnal ciniawau a digwyddiadau dathlu
aelodau’r tîm yn rheolaidd, o benblwyddi i seibiant mamolaeth a dyrchafiadau
staff. Rydym yn cynnal cyfarfodydd tîm, goruchwyliaeth a
thrafodaethau anffurfiol pwysig iawn yn rheolaidd. Mae’r rhain yn galluogi
staff i ymlacio a chefnogi ei gilydd yn emosiynol drwy siarad am unrhyw
achosion anodd y maent yn dod ar eu traws.
Rydym yn cydnabod bod iechyd, diogelwch a lles o
ansawdd dda yn rhan annatod o gydbwysedd bywyd-gwaith iach ac rydym yn falch o
greu amgylchedd cadarnhaol lle gall Gweithwyr Cymdeithasol gyflawni canlyniadau
ystyriol ac sy’n cael effaith.
Buddion ychwanegol y byddwch yn eu derbyn fel
Gweithiwr Cymdeithasol Plant
· Hyd
at 32 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn
· Mynediad
at becyn ad-leoli hyd at £5,000
· Opsiynau
gweithio’n hyblyg a’n hymrwymiad i gefnogi iechyd a lles.
· Rhaglen
ymgynefino fanwl
· Rhaglen
Cymorth i Weithwyr
Mae’r rôl hwn yn cefnogi gweithio’n hybrid,
cydbwysedd rhwng gweithio gartref a gweithio mewn swyddfa.
Mae’r swydd Gweithiwr Cymdeithasol yn
y Tîm Cymorth i Deuluoedd yn derbyn cymelldaliad recriwtio o £2,996
fel croeso i’r Cyngor.
Mae’r taliad yma’n pro rata ar gyfer gweithwyr rhan
amser. Mae’r taliad yn destun didyniadau gweithiwr arferol e.e.
pensiwn, Yswiriant Gwladol a Threth ac mae amodau a thelerau eraill yn
berthnasol, gweler y nodyn Canllawiau Taliadau Recriwtio a Chadw Staff i gael
rhagor o fanylion.
Gweler ein buddion i weithwyr sydd ar gael tra’n
gweithio i’r Cyngor os yw eich cais yn llwyddiannus (Gweithio i ni | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam)
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a
Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â
chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol
nac oed.
Mae'r Cyngor yn
ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan
ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni
fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na
chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Mike Jones |
Ffôn: | 01978 298605 |
Cyfeiriad e-bost: | Mike.Jones@wrexham.gov.uk |