Gweithiwr Cymdeithasol – Tîm Plant Sy'n Derbyn Gofal
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 18/02/2024 |
Dyddiad Postio: | 01/02/2024 |
Cyfeirnod: | 06945 |
Disgrifiad
Gweithiwr Cymdeithasol – Tîm Plant Sy'n Derbyn
Gofal
G09 £35,745 - £38,223 y flwyddyn
Ydych chi’n Weithiwr Cymdeithasol cymwys sydd yn
chwilio am her newydd i wella bywydau pobl - os ydi hyn yn apelio i chi, yna
does dim rhaid edrych ymhellach!
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyfle
cyffrous o fewn ein tîm Plant Sy’n Derbyn Gofal fel gweithiwr cymdeithasol.
Rydym ni’n chwilio am unigolyn sydd yn ymrwymedig i
ganlyniadau plant a phobl ifanc, sydd yn wrth-wahaniaethol ac yn wrthormesol ac
a fydd y eirioli dros blant a phobl ifanc. Bydd angen i chi fod yn llawn
cymhelliant a bydd gennych sgiliau asesu da. Os ydi hyn yn apelio i chi, yna fe
garem glywed gennych chi.
Mae Wrecsam yn lle gwerth chweil i weithio, mae
gennym oriau amrywiol ar gael, ac mae’r cyfan yn cael ei gynnig ar gontractau
parhaol. Yn gyfnewid, byddwch yn derbyn cyflog cystadleuol sef £35,745 - £38,223 y flwyddyn pensiwn
awdurdod lleol deniadol, cyfle i ddatblygu i fod yn weithiwr cymdeithasol
profiadol, ar yr amod eich bod yn cyrraedd meini prawf penodol, a chymelldaliad
recriwtio o £2,996.
Pam ymuno â Thîm Plant Sy’n Derbyn Gofal fel Gweithiwr
Cymdeithasol Plant?
Mae’r Tîm Plant sy’n Derbyn Gofal yn cynnwys
cymysgedd o weithwyr cymdeithasol profiadol a rhai sydd newydd gymhwyso a
phedwar Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd, sydd yn cefnogi ei gilydd. Mae
cefnogaeth a mentora ychwanegol yn cael ei ddarparu gan Reolwr Tîm a dau Reolwr
Tîm Cynorthwyol. Rhagorol yw’r unig air i
ddisgrifio’r swyddfa olau a helaeth ac mae’n hwyluso gwaith tîm
effeithiol. Yr awyrgylch rhwng bob tîm yw parch gan gefnogi ei gilydd gyda’r
weledigaeth a rennir i wella canlyniadau i’r plant yn Wrecsam maent yn eu
cefnogi.
Rydym ni’n adran gymharol fach ac mae’r staff i gyd
wedi’u lleoli ar un llawr yn yr adeilad, ac mae hyn yn ei gwneud hi’n llawer
haws i ffurfio perthnasoedd proffesiynol. Rydym ni’n ffodus iawn fod
gennym ni brosiect Gweithredu dros Blant yn Wrecsam, sydd yn darparu
gwasanaethau therapiwtig i blant a phobl ifanc yn ogystal â gwasanaeth
ymgynghori i weithwyr cymdeithasol.
Rydym yn cynnal cyfarfodydd tîm, goruchwyliaeth a
thrafodaethau anffurfiol pwysig iawn yn rheolaidd. Mae’r rhain yn galluogi
staff i ymlacio a chefnogi ei gilydd yn emosiynol drwy siarad am unrhyw
achosion anodd y maent yn dod ar eu traws.
Rydym yn cydnabod bod iechyd, diogelwch a lles o
ansawdd dda yn rhan annatod o gydbwysedd bywyd-gwaith iach ac rydym yn falch o
greu amgylchedd cadarnhaol lle gall Gweithwyr Cymdeithasol gyflawni canlyniadau
ystyriol ac sy’n cael effaith.
Buddion ychwanegol y byddwch yn eu derbyn fel
Gweithiwr Cymdeithasol Plant
- Hyd at
32 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn
- Mynediad
at becyn ad-leoli hyd at £5,000
- Opsiynau
gweithio’n hyblyg a’n hymrwymiad i gefnogi iechyd a lles.
- Rhaglen
ymgynefino fanwl
- Rhaglen
Cymorth i Weithwyr
Mae’r rôl hwn yn cefnogi gweithio’n hybrid, cydbwysedd
rhwng gweithio gartref a gweithio mewn swyddfa.
Mae’r swydd Gweithiwr Cymdeithasol yn
y Tîm Plant Sy’n Derbyn Gofal yn derbyn cymelldaliad recriwtio o
£2,996 fel croeso i’r Cyngor.
Mae’r taliad yma’n pro rata ar gyfer gweithwyr rhan
amser. Mae’r taliad yn destun didyniadau gweithiwr arferol e.e.
pensiwn, Yswiriant Gwladol a Threth ac mae amodau a thelerau eraill yn
berthnasol, gweler y nodynCanllawiau Taliadau Recriwtio a Chadw Staff i gael
rhagor o fanylion.
Gweler ein buddion i weithwyr sydd ar gael tra’n
gweithio i’r Cyngor os yw eich cais yn llwyddiannus (Gweithio i ni | Cyngor Bwrdeistref
Sirol Wrecsam)
Mae angen
gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal
Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae’r Cyngor yn
croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw,
anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn
ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan
ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd
ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a
gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Deborah Brandley |
Ffôn: | 01978 295346 |
Cyfeiriad e-bost: | Deborah.Brandley@wrexham.gov.uk |