Cymhorthydd Addysgu – Lefel 1
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Rhan Amser Dros Dro |
Categori: | Ysgol Alexandra |
Dyddiad Cau: | 24/01/2023 |
Dyddiad Postio: | 11/01/2023 |
Cyfeirnod: | 07049 |
Disgrifiad
Ysgol Gynradd Gymunedol Alexandra
Bodhyfryd
Wrecsam
LL12 7AZ
Pennaeth: Mrs Lisa Roberts
Cymhorthydd Addysgu – Lefel 1
G03 -£12,714 - £12,945 y flwyddyn
27.5 awr yr wythnos, 5 diwrnod
Yn ystod y tymor yn unig a 5 diwrnod hyfforddi (39 wythnos)
I ddechrau cyn gynted ag y bo modd.
Dros dro tan 31 Awst 2023 i ddechrau gyda phosibilrwydd cryf o gael ei
ymestyn.
Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi Cymhorthydd Addysgu hyblyg, brwdfrydig a llawn cymhelliant i weithio yn ein hysgol fendigedig. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i hwyluso dysgu o ansawdd uchel yn yr ystafell ddosbarth ochr yn ochr â’r athro.
I gael mwy o fanylion, cysylltwch â
Lisa Roberts (Pennaeth) yn yr ysgol.
Nid yw’r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi
gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi’r ffurflen gais PDF
sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai
arnoch chi angen cwblhau’r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag
argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i’r ysgol.
Dylid dychwelyd ceisiadau wedi’u cwblhau yn uniongyrchol i’r
Pennaeth gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost isod.
DYDDIAD CAU: 9am, dydd Mawrth 24 Ionawr 2023
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
ar gyfer y swydd hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â
chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol
nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog
ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn
Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu
trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Lisa Roberts |
Ffôn: | 01978 315120 |
Cyfeiriad e-bost: | Headteacher@alexandra-pri.wrexham.sch.uk |