Swyddog Datblygu Systemau Tai - Mewnol yn Unig
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Tai |
Dyddiad Cau: | 12/02/2023 |
Dyddiad Postio: | 27/01/2023 |
Cyfeirnod: | 07194 |
Disgrifiad
G08 £29,439 - £32,020 y
flwyddyn
Rydym ni’n chwilio am unigolyn profiadol, brwdfrydig a rhagweithiol i ymuno
â’n Tîm TG a Chyfrifyddu Rhent. Fe fyddwch chi’n gyfrifol am gynorthwyo i ddarparu gwasanaethau TG,
gweinyddu systemau a chyfrifyddu rhent yr adran Dai, gan sicrhau gweithrediad
esmwyth systemau hanfodol busnes.
Byddwch yn brif
bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau technegol, a byddwch yn meddu ar wybodaeth
arbenigol am systemau tai, yn rhoi cefnogaeth i gydweithwyr a thenantiaid, yn
sicrhau bod staff wedi’u hyfforddi i ddefnyddio systemau a bod yn gyfrifol am
oruchwylio tîm, dirprwyo ar ran Arweinydd Tîm Systemau Tai fel y bod angen. Mae rhent dyledus blynyddol yr adran yn fwy na
£50,000,000. Yn ogystal â sicrhau uniondeb, cywirdeb a diogelwch data’r system
yn unol â deddfwriaeth GDPR, byddwch yn gyfrifol am reoli mynediad at systemau
gwybodaeth ar gyfer staff, cydweithwyr a chwsmeriaid.
Byddwch yn arwain
prosiectau datblygu TG, yn trafod gyda rheolwyr a staff rheng flaen i sicrhau
bod systemau yn bodlonianghenion busnes, yn ymchwilio ac yn profi systemau
sy’n cael eu huwchraddio ac yn eu gweithredu, a sicrhau y gweithredir arfer
orau a bod gweithdrefnau busnes yn cael eu hadolygu a’u gwella.
Dyma gyfle
cyffrous i ategu a chefnogi rhediad esmwyth systemau rheoli tai a rheoli incwm
yr adran.
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
ar gyfer y swydd hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â
chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol
nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog
ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn
Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu
trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Sarah Evans |
Ffôn: | 01978 315437 |
Cyfeiriad e-bost: | Sarah.Evans@wrexham.gov.uk |