Gweinyddwr Systemau
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Dros Dro |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 01/05/2023 |
Dyddiad Postio: | 14/04/2023 |
Cyfeirnod: | 07296 |
Disgrifiad
G05 £21,968 - £22,777 y flwyddyn
37 awr 6 mis (148 awr bob 4
wythnos)
Mae cyfle cyffrous
wedi codi yn y Gwasanaethau Darparu; sy'n cwmpasu gwasanaethau sy'n canolbwyntio
ar yr unigolyn sy'n helpu pobl ag anghenion cymhleth uwch (gan gynnwys
anableddau dysgu a salwch meddwl) i wella eu hannibyniaeth ac ansawdd bywyd.
Mae ein timau yn
ymroddedig i gefnogi unigolion i fyw mor annibynnol â phosibl trwy ofal
cartref, cefnogaeth gymunedol, byw â chymorth, gofal ychwanegol, a byw'n
lled-annibynnol.
Mewn ymdrech i gynyddu effeithlonrwydd, a sicrhau bod y gwasanaethau yn gallu dod yn fwy ymatebol nag erioed, rydym yn chwilio am berson deinamig, ymroddedig a brwdfrydig gyda sgiliau TGCh rhagorol, i helpu i ddatblygu a gweinyddu ein systemau rheoli staff electronig newydd sbon. monitro rheoliadau oriau gwaith, cymorth gyda rheoli hyfforddiant ymhlith tasgau eraill. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad ymarferol o systemau gwybodaeth; gallu hyfforddi eraill i'w defnyddio; a gweithio i derfynau amser tynn ac o dan bwysau. Byddant yn greadigol, yn arloesol ac yn gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm. Bydd ganddynt Ddyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant (PTLLS - Paratoi i Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes) neu byddant yn barod i weithio tuag at gyflawni hyn; a byddai cymwysterau a phrofiad mewn systemau gwybodaeth rheoli cronfeydd data yn ddymunol.
Mae’r prif ddyletswyddau’n cynnwys:
• Dyrannu sifftiau a mewnbynnu data gyda
monitro parhaus;
• Cefnogi Rheolwyr i gasglu gwybodaeth
yn ymwneud â pherfformiad ar ffurf adroddiadau;
• Darparu swyddogaeth cymorth rheng
flaen i sylfaen eang o ddefnyddwyr gyda sgiliau amrywiol;
• Datblygu systemau a phrosesau i wella
effeithlonrwydd yn y timau.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, siaradwch â Kirsti Goodwin Rheolwr Tîm ar 01978 298491 neu e-bostiwch Kirsti.goodwin@wrexham.gov.uk
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn
ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan
ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd
ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a
gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Kirsti Goodwin |
Ffôn: | 01978 298491 |
Cyfeiriad e-bost: | Kirsti.Goodwin@wrexham.gov.uk |