CYNORTHWY-YDD DYSGU – LEFEL 2
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Rhan Amser Dros Dro |
Categori: | Ysgol I.D. Hooson |
Dyddiad Cau: | 31/08/2023 |
Dyddiad Postio: | 24/07/2023 |
Cyfeirnod: | 07333 |
Disgrifiad
Ysgol I D Hooson
Heol Caradog
Rhosllannerchrugog
LL14 2DX
01978 832950
Pennaeth: Mr Rh. Jones
CYMORTHYDD ADDYSGU LEFEL 2
G04 - (£10.98 - £11.18 yr awr)
27.5 awr yr wythnos
Amser tymor ysgol yn unig
I gychwyn yn mis Medi 2023
Mae’r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi Cymhorthydd
Addysgu Lefel 2 i weithio o dan gyfarwyddyd/arweiniad uniongyrchol y staff
addysgu/ staff uwch, o gyflawni rhaglenni gwaith/gofal/cymorth, i ganiatáu
mynediad disgyblion at ddysgu a darparu cymorth cyffredinol i’r athrawon i
reoli’r disgyblion a'r ystafell ddosbarth.
Gallai’r gwaith gael ei gyflawni yn yr ystafell ddosbarth neu tu allan
i’r dosbarth drwy waith gyda grwpiau bach neu unigolion. Bydd y gallu i gyfathrebu’n
effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gael sgwrs anffurfiol am y
swydd cysylltwch â’r Pennaeth ar y rhif uchod.
Nid yw’r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi
gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi’r ffurflen gais PDF
sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai
arnoch chi angen cwblhau’r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu,
llenwi a dychwelyd y ffurflen i’r ysgol.
Dylid dychwelyd ceisiadau wedi’u cwblhau yn uniongyrchol i’r
Pennaeth gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost isod.
Headteacher@hooson-pri.wrexham.sch.uk
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
ar gyfer y swydd hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed
DYDDIAD CAU 31ain o Awst 2023
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Mr Rhodri Jones |
Ffôn: | 01978 832950 |
Cyfeiriad e-bost: | Headteacher@hooson-pri.wrexham.sch.uk |