Uwch Gynlluniwr Gwaith - Mewnol yn Unig
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Tai |
Dyddiad Cau: | 02/04/2023 |
Dyddiad Postio: | 17/03/2023 |
Cyfeirnod: | 07344 |
Disgrifiad
G07 £26,845 -
£28,371 y flwyddyn
Mewnol yn Unig
Mae’r swydd hon yn yr Adran Tai a'i diben yw rhoi
cefnogaeth a swyddogaeth gynllunio gwaith, gan reoli gweithwyr crefft mewnol yn
yr adain atgyweirio Tai, sy’n gyfrifol am gynnal a chadw 11,300 o dai cyngor.
Byddwch chi’n rhoi cefnogaeth i’r tîm Ymateb i Geisiadau
am Waith Atgyweirio Tai, yn rheoli a chofnodi tasgau ar gyfer dyddiaduron
crefftwyr, cysylltu â chydweithwyr i sicrhau bod gwaith atgyweirio’n cael ei
gwblhau mewn pryd ac sy’n bodloni’r cwsmer.
Byddwch chi’n gyfrifol am dîm o 4 o gynllunwyr gwaith,
gan sicrhau eich bod chi fel tîm yn bodloni pob targed o ran cwblhau
atgyweiriadau. Byddwch chi’n dirprwyo ar ran yr Arweinydd Tîm ac yn ei
gynorthwyo a’i gefnogi yn ôl yr angen ac fel arall byddwch chi’n ymgymryd â
dyletswyddau Cynlluniwr Gwaith yn ddyddiol.
Bydd deiliad y swydd yn weithiwr tîm cadarn sy’n gallu ei
ysgogi ei hun, bydd ganddyn nhw sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da ynghyd â
sgiliau TG da ac yn gallu gwneud sawl tasg ar yr un pryd.
I gael sgwrs
anffurfiol am y swydd cysylltwch â:
Gemma Jones –
Arweinydd Tîm Datblygu Gweithredol a Chefnogaeth – 01978 315408 - gemma.jones@wrexham.gov.uk
Mae’r Cyngor yn
croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd,
rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn
ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan
ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd
ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a
gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Gemma Jones |
Ffôn: | 01978 315408 |
Cyfeiriad e-bost: | Gemma.Jones@wrexham.gov.uk |