Dadansoddwr Technegol Arweiniol TGCh – Rhwydweithiau
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Cyllid a TGCh |
Dyddiad Cau: | 07/05/2023 |
Dyddiad Postio: | 24/03/2023 |
Cyfeirnod: | 07359 |
Disgrifiad
Dadansoddwr
Technegol Arweiniol TGCh – Rhwydweithiau
G10 - £36,298 - £39,493
Dyma gyfle gwych i ymuno â thîm Isadeiledd TGCh prysur a datblygol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Fel Dadansoddwr Technegol byddwch yn gweithio ar ystod eang o galedwedd a meddalwedd ym mhob maes gwasanaeth y Cyngor.
Yn y tîm Isadeiledd TGCh, yn atebol i’r Rheolwr Isadeiledd TGCh, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi technolegau rhwydwaith y Cyngor. Bydd eich gwaith yn amrywiol a bydd yn cynnwys gweithredu a chefnogi meddalwedd a chaledwedd lefel menter newydd a phresennol ar gyfer Cyngor Wrecsam, ei weithwyr, partneriaid busnes, budd-ddeiliaid gwasanaeth a’r cyhoedd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar wybodaeth a phrofiad o'r sgiliau a’r technolegau canlynol:
·
Mae angen sgiliau rhwydwaith Cisco arbennig o dda. Mae’n rhaid iddynt fod wedi
gweithio’n helaeth gyda rhwydwaith Cisco, ac yn gyfarwydd â dylunio, cefnogi a
defnyddio llwybrydd, pwyntiau a switsys mynediad di-wifr Cisco
·
Profiad o reoli Cisco ISE
·
Profiad o reoli wal dân, Checkpoint yn ddelfrydol
·
Profiad helaeth o segmentu rhwydwaith (VLAN, VRF) a llwybro ar draws nifer
fawr o safleoedd o bell yn defnyddio MPLS
·
Mae profiad o reoli dirprwy weinyddion ac unrhyw wybodaeth sy’n
gysylltiedig â Smoothwall, Zscaler neu unrhyw ddirprwy gwmwl arall yn
fanteisiol
·
Deall ‘Site-to-site’ a VPN cleientiaid
·
Mae dealltwriaeth gyffredinol o gyd-bwyswr llwythi ac unrhyw wybodaeth
ynglŷn â Barracuda a Citrix Netscaler yn fanteisiol
·
Profiad o ffurfweddu meddalwedd monitro rhwydwaith (e.e.
SNMP, Syslog, Netflow, Solarwinds neu debyg)
· Sgiliau datrys problemau rhwydwaith
Os ydych chi’n teimlo bod y swydd hon yn addas i chi, mae’n bwysig eich bod chi’n weithiwr TGCh proffesiynol trefnus a brwdfrydig a bod gennych chi ddull hyblyg ac arloesol o wneud eich gwaith. Dylech fod â phrofiad da mewn isadeiledd a chefnogi TG a gallu dangos dull systematig a dadansoddol o ddatrys problemau. Byddwch yn gallu blaenoriaethu eich llwyth gwaith a pherchen unrhyw dasg neu brosiect a roddir i chi. Byddwch yn meddu ar sgiliau cyfathrebu gwych ac yn mwynhau bod yn rhan o dîm llwyddiannus.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r
Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu
ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn
Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai
ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Peter Grimley |
Ffôn: | 01978 292352 |
Cyfeiriad e-bost: | Peter.Grimley@wrexham.gov.uk |