Dadansoddwr Technegol TGCh – Gweinyddion a Storio
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Cyllid a TGCh |
Dyddiad Cau: | 07/05/2023 |
Dyddiad Postio: | 24/03/2023 |
Cyfeirnod: | 07360 |
Disgrifiad
Dadansoddwr Technegol TGCh
– Gweinyddion a Storio
G09
£32,909 - £35,411 y flwyddyn
Dyma gyfle gwych i ymuno â thîm Isadeiledd TGCh prysur a datblygol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Fel Dadansoddwr Technegol byddwch yn gweithio ar ystod eang o galedwedd a meddalwedd ym mhob maes gwasanaeth y Cyngor.
Yn y tîm Isadeiledd TGCh, yn atebol i’r Rheolwr Isadeiledd TGCh, bydd y swydd yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi technolegau Canolfan Ddata'r Cyngor. Bydd eich gwaith yn amrywiol a bydd yn cynnwys gweithredu a chefnogi meddalwedd a chaledwedd lefel menter newydd a phresennol ar gyfer Cyngor Wrecsam, ei weithwyr, partneriaid busnes, budd-ddeiliaid gwasanaeth a’r cyhoedd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar wybodaeth a phrofiad o'r sgiliau a’r technolegau canlynol:
·
Profiad o reoli gweinyddion
Microsoft Windows 2016/2019/2022
·
Profiad o reoli gweinyddion
dros y we, VMWare yn ddelfrydol
·
Gwybodaeth dda am
weinyddiaeth a rheolaeth SAN
·
Gwybodaeth am reoli
adferiad trychineb ac wrth gefn
·
Gwybodaeth a phrofiad o
ddefnyddio Active Directory/DHCP/DNS/Group Policy
·
Profiad o reoli pats a
gwendidau
·
Gwybodaeth am
O365/Microsoft Exchange
·
Gwybodaeth am reoli
meddalwedd gwrthfeirysau
· Gwybodaeth am reoli tystysgrifau TLS/SSL
Os ydych chi’n teimlo bod y swydd hon yn addas i chi, mae’n bwysig eich bod chi’n weithiwr TGCh proffesiynol trefnus a brwdfrydig a bod gennych chi ddull hyblyg ac arloesol o wneud eich gwaith. Dylech fod â phrofiad da mewn isadeiledd a chefnogi TG a gallu dangos dull systematig a dadansoddol o ddatrys problemau. Byddwch yn gallu blaenoriaethu eich llwyth gwaith a pherchen unrhyw dasg neu brosiect a roddir i chi. Byddwch yn meddu ar sgiliau cyfathrebu gwych ac yn mwynhau bod yn rhan o dîm llwyddiannus.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn
ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan
ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd
ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a
gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Peter Grimley |
Ffôn: | 01978 292352 |
Cyfeiriad e-bost: | Peter.Grimley@wrexham.gov.uk |