Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Dadansoddwr Technegol TGCh – Cyfathrebu Unedig

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Parhaol
Categori: Cyllid a TGCh
Dyddiad Cau: 07/05/2023
Dyddiad Postio: 24/03/2023
Cyfeirnod: 07361

Disgrifiad

Dadansoddwr Technegol TGCh – Cyfathrebu Unedig 

G09 £32,909 - £35,411 y flwyddyn 

Dyma gyfle gwych i ymuno â thîm Isadeiledd TGCh prysur a datblygol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel Dadansoddwr Technegol ar gyfer Cyfathrebu Unedig.

Bydd deiliad y swydd yn atebol i’r Rheolwr Isadeiledd TGCh ac yn chwarae rhan allweddol i gefnogi technolegau llais a chyfathrebu unedig y Cyngor. Bydd eich gwaith yn amrywio a bydd yn cynnwys gweithredu a chefnogi meddalwedd a chaledwedd newydd a phresennol ar gyfer Cyngor Wrecsam, ei weithwyr, partneriaid busnes, budd-ddeiliaid gwasanaeth a’r cyhoedd. 

Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar wybodaeth gyfredol a phrofiad o’r sgiliau a’r technolegau canlynol: 

·         Sgiliau a phrofiad o dechnolegau llais, gweinyddiaeth system llais a darpariaeth llais. Mae profiad o ddefnyddio systemau Avaya PBX yn hanfodol 

·         Profiad o reoli systemau sydd wedi’u hintegreiddio â systemau llais e.e. Systemau IVR, Cofnodi Galwadau, Ffonau Meddalwedd, Neges Llais, Cofnodi Galwadau, Canolfan Gyswllt ac ati 

·         Profiad o symud llinellau teleffoni (e.e. ISDN/PSTN) 

·         Gwybodaeth a sgiliau i arwain yr awdurdod i gynnwys datrysiadau llais mewn fideo gynadledda a datrysiadau negeseua gwib (e.e. Zoom, Teams) 

·         Gwybodaeth am SIP a phrofiad o ddatrys problemau SIP 

·         Mae gallu integreiddio neu symud i blatfform teleffoni letyol/cyfathrebu unedig yn fanteisiol 

Os ydych chi’n teimlo bod y swydd hon yn addas i chi, mae’n bwysig eich bod chi’n weithiwr TGCh proffesiynol trefnus a brwdfrydig a bod gennych chi ddull hyblyg ac arloesol o wneud eich gwaith. Dylech fod â phrofiad da o ddatrysiadau llais ac yn gallu arddangos dull systematig a dadansoddol ar gyfer datrys problemau. Byddwch hefyd yn gallu blaenoriaethu llwyth gwaith a meddiannu’r tasgau a phrosiectau a roddir i chi. Byddwch yn meddu ar sgiliau cyfathrebu gwych ac yn mwynhau bod yn rhan o dîm llwyddiannus. 

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed. 

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

 

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Peter Grimley
Ffôn: 01978 292352
Cyfeiriad e-bost: Peter.Grimley@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr