Ymgynghorydd Cyswllt Cyntaf x 2 (Tîm Un Pwynt Mynediad)
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 09/04/2023 |
Dyddiad Postio: | 24/03/2023 |
Cyfeirnod: | 07368 |
Disgrifiad
G04 £21,189 -
£21,575 y flwyddyn
37 awr yr
wythnos - ystyrir y cyfle i rannu swydd
Lleolir y
swydd(i) o fewn y Tîm Un Pwynt Mynediad, Adran Gofal Cymdeithasol i Oedolion,
sydd yn cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol, Therapyddion Galwedigaethol, Aseswyr
Gofal Cymdeithasol a mynediad i asiantaethau Trydydd Sector, ac wedi’i lleoli yn Adeiladau'r Goron, Stryt
Caer, Wrecsam.
Fel
Ymgynghorydd Cyswllt Cyntaf byddwch yn rhan o dîm llawn cymhelliant, cefnogol
ac aml-broffesiwn, sy’n ymroddedig i ddarparu gwasanaeth i bobl sy’n cysylltu â
gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion Wrecsam am wybodaeth, cyngor neu
gymorth. Fel ymgynghorydd cyswllt cyntaf
byddwch yn gwrando ar unigolion er mwyn cael dealltwriaeth o’r hyn sy’n bwysig
iddynt, yn darparu gwybodaeth a chyngor pwrpasol wedi’u targedu tuag atynt, ac
yn gallu adnabod pryd y bydd rhywun angen asesiad manylach gan aelodau ehangach
o’r tîm. Gelwir hyn yn sgwrs “Beth sy’n Bwysig”, lle’r ydych yn nodi
canlyniadau ar gyfer yr unigolion.
Mae gan y Tîm
Un Pwynt Mynediad i Oedolion CBSW gysylltiadau gwaith cryf â Hwb Lles Wrecsam ac
ystod eang o wasanaethau a sefydliadau mewnol ac allanol a phan mae unigolion
yn cysylltu â ni, gallant fod yn sicr eu bod am gael y wybodaeth, y cyngor
neu’r cymorth y mae arnynt eu hangen.
Mae rôl yr
Ymgynghorydd Cyswllt Cyntaf yn gofyn am sgiliau gwrando ardderchog ac awydd i
gefnogi pobl i ddarganfod datrysiadau sy’n cefnogi eu hannibyniaeth. Byddwch yn
drefnus iawn ac yn gallu ymateb yn effeithiol i sefyllfaoedd heriol, byddwch yn
gallu gweithio ar gyflymder a chanolbwyntio ar ddatrys problemau gan gynnal
agwedd gadarnhaol ym mhob sgwrs drwy fabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar
gryfderau yn unol â’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
Bydd heriau
newydd bob dydd a bydd yn rhaid i chi fod yn gryf a chanolbwyntio ar ddatrys
problemau. Yn gyfnewid, byddwch yn cael
eich cefnogi i fynychu cyfleoedd hyfforddiant a datblygu a byddwch mewn cyswllt
rheolaidd ag ystod eang o wasanaethau a sefydliadau i sicrhau eich bod yn gallu
darparu “Beth sy’n Bwysig” i’r unigolyn.
Bydd gennych gyfle
i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl a bod mewn swydd lle cewch yr holl
gefnogaeth a hyfforddiant sydd arnoch eu hangen, yn cynnwys cefnogaeth reoli
ddyddiol a manteisio ar delerau ac amodau ardderchog. Mae’r swydd yn gofyn am
fewnbynnu data ac felly byddai sgiliau cyfrifiadurol a phrofiad gweinyddol o
fantais. Darperir hyfforddiant systemau.
Mae’r Adran
wedi cyflwyno rhaglen ‘Grow Your Own’ yn ddiweddar, sy’n rhoi cyfle i weithwyr
weithio tuag at ennill cymhwyster Asesydd Gofal Cymdeithasol, Gwaith
Cymdeithasol neu Therapydd Galwedigaethol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Joanna.tatham@wrexham.gov.uk a/neu Lyn.jones@wrexham.gov.uk
Mae angen
gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.
Mae’r Cyngor yn
croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw,
anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn
ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan
ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd
ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a
gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Joanna Tatham |
Ffôn: | 01978 298134 |
Cyfeiriad e-bost: | Joanna.Tatham@wrexham.gov.uk |
Cyswllt 2 | |
Enw'r cyswllt: | Lyn Jones |
Ffôn: | 01978 298254 |
Cyfeiriad e-bost: | Lyn.jones@wrexham.gov.uk |