Gweithiwr Cymdeithasol Camddefnyddio Sylweddau- Dros dro
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Rhan Amser Dros Dro |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 29/05/2023 |
Dyddiad Postio: | 09/05/2023 |
Cyfeirnod: | 07379 |
Disgrifiad
G09 - £32,909 -
£35,411 pro rata
26 awr yr wythnos
(Dros dro am 12 mis - posibilrwydd o estyniad)
Mae hwn yn gyfle
cyffrous i Weithiwr Cymdeithasol ymuno â’r Canolfannau Teuluoedd yn Wrecsam ac
arbenigo yn y maes camddefnyddio sylweddau. Bydd y swydd yn cynnwys gweithio’n
ddwys gyda hyd at ddeuddeg o deuluoedd lle mae camddefnyddio sylweddau wedi
cael effaith sylweddol ar eu gallu i fod yn rhieni effeithiol. Mae’r swydd hon
hefyd yn rhoi cyfle i weithio’n uniongyrchol gyda phlant, sy’n gofyn am sgiliau
datblygu hunan-barch, cadernid a’u helpu i weithio tuag at ddyfodol cadarnhaol.
Bydd gennych sgiliau asesu rhagorol a byddwch yn meddu ar y gallu i eirioli’n
effeithiol ar ran y teulu gan sicrhau nad ydynt yn cael eu trin yn anffafriol
wrth gael mynediad at wasanaethau cyffredinol.
Mae’r canolfannau
teuluoedd yn cynnig ystod o wasanaethau ataliol a bydd gan yr ymgeisydd
llwyddiannus y fantais o weithio ochr yn ochr â thîm o weithwyr gyda phrofiad o
rianta a rhianta arbenigol yn y meysydd camddefnyddio sylweddau a cham-drin
domestig.
Yn ddelfrydol
bydd gennych eisoes wybodaeth a phrofiad o weithio yn y maes camddefnyddio
sylweddau a gweithio mewn partneriaeth gyda gweithwyr proffesiynol a rhieni. Bydd
yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu darparu’r gwasanaeth drwy waith grŵp ac
unigol. Byddwch chi’n gallu gweithio mewn ffordd hyblyg a byddwch chi’n cael
cefnogaeth i ddatblygu eich arfer.
Os oes gennych
ymholiadau pellach ynglŷn â’r swydd, cysylltwch â Julie Williams ar 01978
295672 neu julie.williams@wrexham.gov.uk
Mae angen gwiriad
manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol
Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â
chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol
nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog
ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn
Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu
trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Julie Williams |
Ffôn: | 01978 295672 |
Cyfeiriad e-bost: | Julie.Williams@wrexham.gov.uk |