Cydlynydd – Cymhorthwyr Teuluoedd
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Rhan Amser Dros Dro |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 23/04/2023 |
Dyddiad Postio: | 06/04/2023 |
Cyfeirnod: | 07388 |
Disgrifiad
Cydlynydd – Cymhorthwyr Teuluoedd
1 swydd 22 awr yr wythnos
G10 £36,298 - £39,493 pro rata
Dros dro tan 31/03/2025
Mae cyfle cyffrous wedi codi am Gydlynydd y tîm Cymhorthwyr
Teuluoedd yn y Canolfannau Teuluoedd. Bydd y swydd yn ymwneud â rheoli tîm bach o weithwyr sy’n
darparu’r rhaglen Cymorth Teuluoedd. Nod y tîm yw atal teuluoedd diamddiffyn rhag mynd yn
ddigartref drwy hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a mwy o annibyniaeth. Mae’r cymorth a
gynigir yn cynnwys help i gyllidebu a hawlio budd-dal; gwneud cais am lety priodol
i ddiwallu anghenion teuluoedd a’u helpu i sefydlu trefn ddyddiol gynaliadwy yn
y cartref ac i cael mynediad at adnoddau yn eu cymunedau eu hunain.
Bydd gennych brofiad goruchwyliol a byddwch yn angerddol
dros sicrhau bod y tîm yn gweithredu hyn y safonau uchaf posibl. Byddwch yn rhywun
sy'n gallu gweithio ar eich liwt eich hun gyda sgiliau rhyngbersonol da a'r
gallu i weithio mewn partneriaeth â rhieni a gweithwyr proffesiynol fel ei
gilydd. Mae profiad
o fonitro a gwerthuso gwaith yn hanfodol.
Mae’r Canolfannau Teuluoedd yn cynnig amrywiaeth o
wasanaethau ataliol a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn elwa o weithio ochr yn
ochr â thîm o weithwyr sydd â phrofiad o rianta a rhianta arbenigol ym maes
camddefnyddio sylweddau a chamdriniaeth ddomestig.
Os hoffech drafodaeth anffurfiol am y swydd, siaradwch â
Julie Williams, Rheolwr Tîm Dros Dro y Canolfannau Teuluoedd ar 01978 295671.
Anfonwch eich Mynegiant o Ddiddordeb at julie.williams@wrexham.gov.uk.
Mae angen gwiriad
manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.
Mae’r Cyngor yn
croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw,
anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn
ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan
ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd
ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a
gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Julie Williams |
Ffôn: | 01978 295672 |
Cyfeiriad e-bost: | Julie.Williams@wrexham.gov.uk |