Cymhorthydd Cefnogi Busnes
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Tai |
Dyddiad Cau: | 07/05/2023 |
Dyddiad Postio: | 25/04/2023 |
Cyfeirnod: | 07395 |
Disgrifiad
G05 £21,968 - £22,777 y flwyddyn
Diben y swydd yw cefnogi rhediad effeithiol y swyddogaeth/ yr adran o ddydd
i ddydd a darparu cefnogaeth weinyddol lawn i’r tîm.
Mae’r swydd wedi’i lleoli o fewn y Tîm Asedau Strategol a bydd yn cyflawni
amrywiaeth o ddyletswyddau gan gynnwys ymholiadau dros y ffôn/ e-byst, yn
trefnu dyddiaduron a threfnu cyfarfodydd, darparu cefnogaeth prosesu geiriau a
chefnogaeth excel sylfaenol i’r tîm yn dilyn templedi Adrannol a
Chorfforaethol, ac unrhyw ofynion statudol e.e. Llythyrau, Adroddiadau,
Ffurflenni, Polisïau Paratoi cyflwyniadau PowerPoint, adroddiadau ysgrifenedig
a gohebiaeth ar ran Rheolwyr a chydweithwyr.Bod yn gyfrifol am goladu,
mewnbynnu ac arbed data a gwybodaeth fanwl gywir gan ddefnyddio systemau
Adrannol electronig ac ar bapur gan gynnwys cronfeydd data eiddo’r
adrannau. Bydd hynny’n cynnwys cyrchu ac
echdynnu data, a’u cyflwyno i gydweithwyr uwch ar gyfer adroddiadau ac i
ddibenion eraill.
Bydd y deiliad swydd yn gyfrifol am baratoi rotas a rheoli dyddiaduron ac
unrhyw ddyletswyddau eraill yn unol â’r swydd ddisgrifiad, yn ôl cais gan yr
Arweinydd Asedau Strategol.
I gael trafodaeth anffurfiol ynghylch y swydd a manylion ychwanegol ar y
Disgrifiad swydd, cysylltwch â Steve Plack, Arweinydd Asedau Strategol Dros Dro
ar 01978 315676 - Steve.plack@wrexham.gov.uk
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â
chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol
nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu
dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i
weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn
cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Steve Plack |
Ffôn: | 01978 315676 |
Cyfeiriad e-bost: | Steve.Plack@wrexham.gov.uk |