Swyddog Cynnal a Chadw Adeiladau
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Tai |
Dyddiad Cau: | 30/04/2023 |
Dyddiad Postio: | 18/04/2023 |
Cyfeirnod: | 07446 |
Disgrifiad
Swyddog Cynnal
a Chadw Adeiladau
G09 £32,909 -
£35,411 y flwyddyn
Mae’r Adran Tai yn dymuno recriwtio unigolyn brwdfrydig sy’n gweithio’n dda mewn tîm i ymuno ag Adran Rheoli Cyfleusterau brysur.
Bydd disgwyl
i’r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu gwybodaeth ac arbenigedd am gynnal a chadw
adeiladau ar gyfer pob eiddo nad ydynt yn dai, gan gynnwys gwaith cynnal a
chadw ymatebol, wedi’i gynllunio a chylchol.
Darparu cyngor a chymorth i'r Tîm Dylunio ar gynnal a chadw adeiladau
newydd a chynlluniau adnewyddu a gwella.
Sicrhau bod portffolio eiddo’r Cyngor nad ydynt yn dai yn bodloni
gofynion deiliaid y gwasanaeth a'r holl reoliadau statudol. Bod yn bersonol
ymwybodol o systemau a phrosesau, a chadw atynt, er mwyn sicrhau
cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Cynnal a Chadw Adeiladau perthnasol.
Mae gwybodaeth
am, ac ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth, yn ogystal â dealltwriaeth o
bwysigrwydd y Gymraeg a diwylliant Cymru, yn hanfodol.
Am fwy o
wybodaeth, cysylltwch ag Aled Pugh-Jones, Arweinydd Rheoli Cyfleusterau, ar
01978 315630.
Mae Cyngor
Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw,
anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae'r Cyngor yn
ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan
ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd
ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a
gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Aled Pugh-Jones |
Ffôn: | 01978 315630 |
Cyfeiriad e-bost: | aled.jones@wrexham.gov.uk |