Swyddog Cymorth Presenoldeb - Dros dro
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Dros Dro |
Categori: | Addysg ac Ymyrraeth Gynnar |
Dyddiad Cau: | 01/05/2023 |
Dyddiad Postio: | 14/04/2023 |
Cyfeirnod: | 07464 |
Disgrifiad
G06 - £24,054 -
£25,409 pro rata
Dros Dro (05.06.2023 –
19.07.2024)
Yn ystod y tymor yn
unig - 39 wythnos y flwyddyn
Mae’r Gwasanaeth Cefnogi Addysg yn awyddus i benodi Swyddog
Cefnogi Presenoldeb llawn cymhelliant.
Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn llawn cymhelliant i
weithio gyda theuluoedd ac ysgolion er mwyn gwella cyfraddau presenoldeb.
Yn ddelfrydol fe fydd gan yr ymgeisydd brofiad a gwybodaeth
arbenigol yn ymwneud â materion presenoldeb, rheoli data a’r defnydd o Becynnau
Rheoli Presenoldeb fel SIMS.
Byddant yn hyddysg mewn gweithio ag ystod o bartneriaid a
budd-ddeiliaid gan gynnwys ysgolion, pobl ifanc a’u teuluoedd. Mae’r swydd yn cynnwys cynnal gweithdai
ynghylch phresenoldeb a hwyluso Cynlluniau Gwella Presenoldeb.
Dyma gyfle cyffrous i weithiwr proffesiynol sy’n frwdfrydig
am bwysigrwydd addysg ac sy’n ymroddedig i sicrhau bod anghenion pob plentyn a
pherson ifanc yn cael eu cefnogi'n llwyddiannus.
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
ar gyfer y swydd hon.
Swydd dros dro yw hon, yn ystod tymor ysgol yn unig, wedi’i
hariannu tan fis Gorffennaf 2024 gyda’r posibilrwydd o’i hymestyn yn dibynnu ar
gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Ar gyfer ymholiadau pellach ynglŷn â’r swydd, gellir
cysylltu â’r Rheolwr Cefnogi Addysg, John Hodgson, ar 01978 268165.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â
chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol
nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog
ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn
Gymraeg ac yn Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | John Hodgson |
Ffôn: | 07808 787761 |
Cyfeiriad e-bost: | John.Hodgson@wrexham.gov.uk |