Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Gweithiwr Camddefnyddio Sylweddau Pobl Ifanc

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Dros Dro
Categori: Addysg ac Ymyrraeth Gynnar
Dyddiad Cau: 14/05/2023
Dyddiad Postio: 02/05/2023
Cyfeirnod: 07465

Disgrifiad

Gweithiwr Camddefnyddio Sylweddau Pobl Ifanc

Lefel Broffesiynol J.N.C. Ystod Pwyntiau 16-19: £30,416 - £32,820 y flwyddyn

Tîm Cyffuriau ac Alcohol Pobl Ifanc in2Change - Siop Wybodaeth, Stryt y Lampint, Wrecsam

Dros Dro tan 31 Mawrth 2024

37 awr yr wythnos

Mae’r Adran Addysg ac Ymyrraeth Gynnar yn dymuno penodi Gweithiwr Ieuenctid brwdfrydig iawn i gefnogi pobl ifanc i hwyluso eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgiadol.  Mae’r swydd hon yn rhan o dîm cyffuriau ac alcohol pobl ifanc in2change ac mae’n cefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sy’n defnyddio neu sydd wedi defnyddio cyffuriau ac alcohol. Mae’n chwarae rôl bwysig wrth gefnogi pobl ifanc gydag ymyraethau ar sail un i un, yn ogystal â chyflwyno gweithgareddau atal mewn ysgolion a chlybiau ieuenctid.

I gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Sara Tompkin, Uwch Ymarferydd Lles

Rhif ffôn: 07803 022159 neu e-bost: sara.tompkin@wrexham.gov.uk

Oherwydd cyllid contract dros dro yw hwn a’r dyddiad terfyn yw 31 Mawrth 2024.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag yw eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Sara Tompkin
Ffôn: 07803 022159
Cyfeiriad e-bost: Sara.Tompkin@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr