Swyddog Gweinyddol - Dros dro
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Dros Dro |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 01/05/2023 |
Dyddiad Postio: | 17/04/2023 |
Cyfeirnod: | 07468 |
Disgrifiad
Swyddog Gweinyddol - Gofal Cymdeithasol i Blant
G06
£24,054 - £25,409
37 awr yr wythnos – dydd
Llun i ddydd Gwene
Mae gan Dîm Gofal Cymdeithasol Wrecsam gyfleoedd cyffrous
newydd mewn Gofal Cymdeithasol i Blant. Mae’r tîm Gofal Cymdeithasol wedi cael
trawsnewidiad aruthrol yn y ffordd o ddarparu gofal i’n plant, oedolion a
theuluoedd yn Wrecsam.
Mae’r swydd yn y Tîm Cefnogi Busnes yng Ngofal Cymdeithasol i Blant.
Bydd angen i ddeiliad y swydd gyflawni amrywiol ddyletswyddau gan gynnwys gweinyddu TMS, cydlynu a threfnu cynadleddau, adolygiadau, paneli a chyfarfodydd, cymryd cofnodion o safon uchel, prosesu atgyfeiriadau, casglu a diweddaru systemau cronfa ddata, ymateb i ymholiadau mewnol ac allanol a rheoli dyddiadur, goruchwylio tîm o 12, prosesu taliadau a dyletswyddau gweinyddol eraill.
Er bod y swydd o fewn y Tîm Cymorth Busnes, efallai bydd arnoch angen darparu cefnogaeth i dimau a gwasanaeth penodol ar draws yr adran yn ôl y gofyn, ac efallai bydd gofyn i chi weithio o fewn y tîm hwnnw am gyfnod o amser i ddarparu cefnogaeth er mwyn bodloni galw’r gwasanaeth.
Mae gofynion hanfodol y swydd yn cynnwys sgiliau gweinyddol, cyfathrebu, ysgrifenedig a rhyngbersonol ardderchog yn ogystal â’r gallu i weithio ar eich liwt eich hun. Mae gwybodaeth drylwyr am weithdrefnau swyddfa a chyllid yn hanfodol.
Yn gyfnewid rydym yn cynnig swydd mewn tîm arloesol a
deinamig yn ein swyddfa fodern wedi ei hadnewyddu yn Adeilad y Goron.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd uchod, cysylltwch â Rhian Thomas ar 01978 295362 neu anfonwch e-bost at Rhian.Thomas@wrexham.gov.uk
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r
Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu
ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn
Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai
ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Rhian Thomas |
Ffôn: | 01978 295362 |
Cyfeiriad e-bost: | Rhian.Thomas@wrexham.gov.uk |