Swyddog Gweinyddol – Cyllid (Dros Dro)
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Dros Dro |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 01/05/2023 |
Dyddiad Postio: | 17/04/2023 |
Cyfeirnod: | 07471 |
Disgrifiad
Swyddog Gweinyddol - Gofal Cymdeithasol
i Blant – Cyllid
Cytundeb Cyfnod Penodol 12 mis
G06 £24,054 - £25,409 y flwyddyn
37 awr yr wythnos – dydd Llun i ddydd
Gwener
Disgrifiad:
Mae gan Dîm
Gofal Cymdeithasol Wrecsam gyfleoedd cyffrous newydd mewn Gofal Cymdeithasol i
Blant. Mae’r tîm Gofal Cymdeithasol wedi cael trawsnewidiad aruthrol yn y
ffordd o ddarparu gofal i’n plant, oedolion a theuluoedd yn Wrecsam.
Rydym yn
gyflogwr blaengar gyda model hybrid o gefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith,
yn arloesi mewn hyfforddiant a datblygu a llawer mwy.
Mae’r swydd yn
y Tîm Cefnogi Busnes yng Ngofal Cymdeithasol i Blant.
Bydd angen i
ddeiliad y swydd gyflawni amrywiol ddyletswyddau gan gynnwys awdurdodi
ceisiadau ariannol, prosesu a goruchwylio taliadau, cynnal asesiadau ariannol,
goruchwylio staff, ymdrin ag arian mân a dyletswyddau ariannol eraill yn unol
â’r rheoliadau ariannol.
Er bod y swydd
o fewn y Tîm Cymorth Busnes, efallai bydd arnoch angen darparu cefnogaeth i
dimau a gwasanaeth penodol ar draws yr adran yn ôl y gofyn, ac efallai bydd
gofyn i chi weithio o fewn y tîm hwnnw am gyfnod o amser i ddarparu cefnogaeth
er mwyn bodloni galw’r gwasanaeth.
Mae gofynion
hanfodol y swydd yn cynnwys sgiliau gweinyddol, cyfathrebu, ysgrifenedig a
rhyngbersonol ardderchog yn ogystal â’r gallu i weithio ar eich liwt eich hun.
Mae gwybodaeth drylwyr am weithdrefnau swyddfa a chyllid yn hanfodol.
Yn gyfnewid
rydym yn cynnig swydd mewn tîm arloesol a deinamig yn ein swyddfa fodern wedi
ei hadnewyddu yn Adeilad y Goron.
I gael sgwrs
anffurfiol am y swydd uchod, cysylltwch â Rhian Thomas ar 01978 295362 neu anfonwch e-bost at Rhian.Thomas@wrexham.gov.uk
Mae’r Cyngor yn
croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw,
anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn
ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan
ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd
ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a
gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Rhian Thomas |
Ffôn: | 01978 295362 |
Cyfeiriad e-bost: | Rhian.Thomas@wrexham.gov.uk |